Mae Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth wedi lansio ysgoloriaeth uwchraddedig newydd, diolch i rodd hael gan gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Mae Dr David Jenkins, astudiodd am ei radd a’i Ddoethuriaeth yn yr Adran Hanes Cymru 40 mlynedd yn ôl, wedi rhoi £500,000 i greu Cronfa Ysgoloriaeth Pennar.
Bydd yr ysgoloriaeth, sy’n adlewyrchu diddordebau academaidd Dr David Jenkins ei hun, yn cael ei dyfarnu’n flynyddol i fyfyriwr ôl-raddedig sy’n gwneud ymchwil doethurol ar hanes cymdeithasol ac economaidd Cymru a’r Gororau rhwng y blynyddoedd 1500 a 2000.
Bydd yr ysgoloriaeth yn talu am ffïoedd dysgu ac yn darparu incwm i’r ymgeisydd llwyddiannus, yn ogystal ag arian tuag at deithio a mynychu cynadleddau.
Yn ei blwyddyn gychwynnol, cafodd yr ysgoloriaeth ei dyfarnu i’r myfyriwr PhD, Simon Parsons.
Effaith y rheilffyrdd ar fywyd economaidd Cymru
“Mae deiliad cyntaf Ysgoloriaeth Pennar, Simon Parsons, yn ymchwilio i bwnc pwysig effaith y rheilffyrdd ar fywyd economaidd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg,” meddai yr Athro Paul O’Leary o Adran Hanes a Hanes Cymru.
“Mae ganddo ddiddordeb arbennig ym mhatrymau’r buddsoddi mewn rheilffyrdd a bydd ei ymchwil yn taflu goleuni pwysig ar fywyd economaidd y cyfnod.
“Fel adran, rydym yn hynod ddiolchgar i Dr David Jenkins am ei haelioni, ac am y cyfleoedd astudio uwchraddedig y bydd Cronfa Ysgoloriaeth newydd Pennar yn eu cynnig.
“Mae’r Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed eleni, a thrwy gydol y cyfnod hwn mae rhoddion dyngarol fel hyn wedi cael effaith amhrisiadwy ar y Brifysgol a’n myfyrwyr.”
Hanes morwrol, trafnidiaeth a diwylliannol Cymru
Ac yntau’n hanu o linell hir o forwyr o Geredigion, mae Dr David Jenkins wedi ysgrifennu’n helaeth ar agweddau ar hanes morwrol, hanes trafnidiaeth a hanes diwydiannol Cymru.
Ymddeolodd fel Prif Guradur Trafnidiaeth Amgueddfa Cymru yn 2017, wedi gyrfa o 35 mlynedd, ac mae’n parhau i fod yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Amgueddfa.
Mae’n Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Henebion Llundain; cyd-olygydd Cymru a’r Môr/Maritime Wales, aelod o fwrdd golygyddol Folk Life, ac yn Ymddiriedolwr y Comisiwn Prydeinig ar gyfer Hanes Morol.
Mae wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd Cymdeithas Perchnogion Llongau Môr Hafren am dros ddeng mlynedd ar hugain.