Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu bod Cyngor Môn yn gweithredu’n groes i’r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor.

Mae Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Môn yn datgan yn glir mai “nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor, ar lafar ac yn ysgrifenedig”, ond mae Cynllun Iaith y Cyngor yn gosod nod o “gefnogi ein staff a’n cynghorwyr i gynyddu eu hyder a defnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith”.

Yn ôl y Gymdeithas, dydy cynyddu hyder a defnydd ddim yn gydnaws â’r nod o wneud y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor.

Yn yr un modd, dydy ieithwedd y nodau, sy’n cyfeirio at “greu mwy o gyfleoedd” neu “gynnig cyfleoedd”, ddim yn gydnaws â’r nod hwnnw.

“Dylai pob polisi a chynllun adlewyrchu polisi iaith y cyngor, a’r nod mai’r Gymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y cyngor felly mae angen newid y nodau i adlewyrchu hynny,” meddai Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, sy’n un o drigolion Ynys Môn.

“Mae Cynllun y Cyngor yn enghraifft arall o grwydro oddi wrth y nod bod y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol y cyngor, mae Strategaeth Hybu’r Gymraeg a’r Cynllun Gweithredu atodol hefyd yn crwydro oddi wrth y nod hwnnw.”

Strategaeth Hybu’r Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyfeirio at Strategaeth Hybu’r Gymraeg y Cyngor, sydd yn nodi, “Fel prif gyflogwr yr ynys mae gennym ddyletswydd i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gweinyddiaeth fewnol ac i ddatblygu sgiliau iaith ein gweithlu”.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw ar awdurdodau lleol, yn y gorllewin yn enwedig, i symud i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd,” meddai Robat Idris.

“Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg felly mae modd gweithredu ar hynny.

“Er gwaethaf canlyniadau’r Cyfrifiad sy’n dangos fod yna le i bryderu am y Gymraeg ar Ynys Môn, gwyddom ei bod yn dal yn un o gadarnleoedd yr iaith.

“Gwyddom hefyd fod yna ewyllys da cyffredinol tuag at yr iaith ar yr Ynys, ac mae hynny’n wir am y Cynghorwyr Sir hefyd.

“Ond mae angen mwy nag ewyllys da – rhaid dangos mewn ffordd ymarferol fod y Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu drwy weinyddu mewnol y Cyngor drwy’r Gymraeg.

“Dylid gweld hyn fel cyfle i hybu’r iaith, a dangos fod yr iaith yn berthnasol ac yn bwysig i ni.

“Hyderwn y bydd y Cyngor yn dangos y penderfyniad angenrheidiol i weithredu ar frys.”

Ymateb y Cyngor

“Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn hynod falch o statws Ynys Môn fel un o gadarnleoedd y Gymraeg,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Rydym yn cymryd ein dyletswydd i hybu’r iaith o fewn y Cyngor a thu hwnt o ddifri.

“Dyma’r rheswm dros wneud y Gymraeg yn faes blaenoriaeth yng nghynllun newydd y Cyngor fydd yn mynd gerbron aelodau’r Cyngor Sir ar 9 Mawrth 2023.

“Rydym hefyd yn cymryd unrhyw honiad o fynd yn groes i’n polisi iaith Gymraeg o ddifri.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu atom a byddwn yn ymateb i’r llythyr hwnnw’n llawn maes o law.”