Mae dau ddyn o dramor wedi cael eu carcharu am gynhyrchu canabis ar raddfa ddiwydiannol, ac mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio eu bod nhw “yn parhau i dargedu unigolion sy’n ceisio dod â chyffuriau i gymunedau Gwynedd”.
Cafodd Elidon Hodaj, 27, ei ganfod yn euog o gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B, a chafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a dau fis o garchar.
Cafodd Landi Ruci, 32, hefyd ei ganfod yn euog o gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B, a chafodd ddedfryd o ddwy flynedd o garchar.
Bydd y ddau yn cael eu halltudio yn dilyn eu dedfrydau.
Aeth y ddau ddyn gerbron Llys y Goron Caernarfon ddoe (dydd Llun, Mawrth 7) yn dilyn gwarant gan yr heddlu ar Ionawr 29, pan ddaethon nhw o hyd i ffatri ganabis yn cael ei gweithredu ar raddfa ddiwydiannol, yn ymestyn dros bedwar llawr.
“Rydym yn parhau i dargedu unigolion sy’n ceisio dod â chyffuriau i gymunedau Gwynedd,” meddai Ditectif Arolygydd Richard Griffith.
“Hoffwn roi sicrwydd i bawb sy’n byw ac yn gweithio ym Mangor ein bod yn gwrando ac yn ymateb i’r holl wybodaeth a phryderon ynghylch ffermydd canabis a amheuir yn yr ardal.
“Os gwelwch, clywch neu aroglwch unrhyw rai o’r arwyddion, dewch ymlaen yn uniongyrchol neu’n ddienw a byddwn yn ymchwilio i adroddiadau’n drylwyr.
“Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gyffuriau yn eich ardal, cysylltwch â’r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101 neu riportiwch yn ddienw drwy Taclo’r Tacle.”