Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu bob blwyddyn i nodi cyfraniad menywod a’u brwydr am hawliau cyfartal.

Yma, mae golwg360 yn edrych ar beth yw’r diwrnod a sut mae’n cael ei ddathlu eleni…


Beth yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod?

Digwyddiad blynyddol yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i nodi cyfraniad menywod a’u brwydr am hawliau cyfartal.

Mae ei wreiddiau yn yr Unol Daleithiau, ac yn enwedig yn y mudiad sosialaidd a llafur yn nechrau’r ugeinfed ganrif, wrth i fenywod frwydro am hawliau yn y gweithle a’r hawl i bleidleisio.

Cafodd y dathliad cynharaf ar gofnod ei gynnal yn 1911 yn yr Almaen, Awstria, Denmarc a’r Swistir, gyda thros filiwn o bobol yn dod ynghyd mewn ralïau i gefnogi hawliau menywod.

Sut mae’r diwrnod wedi datblygu ers hynny?

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched wedi tyfu, mewn maint ac o ran ei arwyddocâd, ac mae bellach yn rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau – o drais yn y cartref i hawliau cyfartal yn y gweithle.

Cafodd y diwrnod ei gydnabod yn swyddogol gan NATO yn 1977, gan ddod yn ddigwyddiad blaenllaw ac arwyddocaol ar draws y byd, gyda rhai gwledydd fel Rwsia, Tsieina ac Wganda yn ei ddynodi’n ddiwrnod o wyliau.

Beth yw’r thema eleni?

Mae thema benodol i’r diwrnod bob blwyddyn.

Eleni, mae’r pwyslais ar gofleidio cydraddoldeb.

Ymhlith themâu’r gorffennol mae newid hinsawdd a menywod, menywod yng nghefn gwlad, a menywod a HIV/AIDS.

Pam fod y diwrnod yn bwysig?

Yn ogystal â thema flynyddol, mae’r diwrnod yn gyfle i dynnu sylw at faterion eraill sy’n effeithio ar fenywod ar draws y byd, o drais i dlodi.

Mae un ym mhob tair o fenywod yn dioddef trais corfforol neu rywiol yn ystod eu bywydau, ac mae’n aml yn clymu i mewn â chyfleoedd economaidd i fenywod, mynediad at addysg rhyw, a hawliau atgenhedlu.

Fe fu ymdrechion dros y blynyddoedd diwethaf i gynnwys menywod o liw, menywod trawsryweddol, pobol anneuaidd a phobol nad ydyn nhw’n cydymffurfio â rhywedd, a hynny am fod y diwrnod yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar fenywod croen gwyn yn brwydro am yr hawl i bleidleisio.

Beth am fenywod yng Nghymru?

Mae Chwarae Teg yn gofyn i sefydliadau ledled Cymru fynd ati i #GolfeidioCyfiawnder a chael hwyl ynghylch codi arian ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Mae’r elusen wedi datblygu adnoddau i gefnogi sefydliadau sydd â diddordeb mewn codi arian er budd ei waith hanfodol i ddileu anghyfartaledd ar sail rhywedd yng Nghymru.

Mae llu o awgrymiadau, o gwisiau i gweithgareddau adeiladu tîm a syniadau nawdd i’w gweld ar wefan Chwarae Teg.

Drwy gofrestru ac ymuno, gall gweithleoedd gynllunio digwyddiadau i’w gweithwyr a’u cwsmeriaid i ddod at ei gilydd i hybu lles, ymgysylltu a gwneud daioni.

Yn ôl yr adroddiad Cyflwr y Genedl 2023 gan Chwarae Teg:

• Mae 93.5% o droseddau rhyw yn cael eu cyflawni yn erbyn menywod.

• 11.3% yw’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Nghymru ar hyn o bryd.

• Mae 50% o fenywod 16-34 oed wedi profi o leiaf un math o aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf.

• Mae 23% o fenywod yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel yn cerdded ar ei phen ei hun ar ôl iddi dywyllu.

Beth sy’n cael ei ddweud yng Nghymru?

“Ers 30 mlynedd mae Chwarae Teg wedi ymgyrchu dros gydraddoldeb ar sail rhywedd, gan weithio’n ddiflin i greu Cymru decach, lle gall pob menyw gyflawni a ffynnu,” meddai Athina Summerbell, Rheolwr Grantiau a Chodi Arian Chwarae Teg.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu menywod ysbrydoledig a chydnabod llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol Menywod.

“Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud hyn ac rwy’n gobeithio y bydd sefydliadau’n cymryd golwg ar ein hadnoddau a nodi’r diwrnod mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw ac sydd yn helpu i gefnogi ein gwaith yn y dyfodol.

“Actifiaeth ar y cyd yw’r hyn sy’n gyrru newid.

“Mae partneriaeth efo Chwarae Teg ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hyn nid yn unig yn codi arian hanfodol i ni barhau i frwydro dros Gymru decach ond hefyd mae’n dangos ei bod yn ymrwymiadau partneriaid i greu amgylcheddau cynhwysol lle gall Menywod gyflawni a ffynnu.

“Yn ogystal â bod yn gyfle gwych i gymdeithasu gyda chydweithwyr neu gleientiaid, mae sefydliadau sy’n cymryd rhan wir yn dangos eu hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw ac yn gallu codi ymwybyddiaeth o’r materion pwysig.”