Mae eira trwm am effeithio Eisteddfodau Cylch mewn rhai ardaloedd dros y dyddiau nesaf.

Mae nifer o ganghennau lleol wedi cyhoeddi bod eu heisteddfodau naill ai wedi’u gohirio neu eisoes wedi’u haildrefnu ar gyfer dyddiad arall.

Rhuddlan ac Edeyrnion

Mae Eisteddfodau Cylch Rhuddlan a Chylch Edeyrnion wedi’i gohirio.

“Yn anffodus oherwydd y tywydd garw, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio Eisteddfodau Cylch Rhuddlan a Chylch Edeyrnion yfory,” meddai Urdd Sir Ddinbych.

“Bydd dyddiadau newydd yn cael eu rhyddhau’n fuan felly cadwch lygaid allan ar ein cyfryngau cymdeithasol.”

Meirionnydd

Mae Eisteddfod Rhanbarth Uwchradd Meirionnydd eisoes wedi cyhoeddi dyddiad newydd, sef dydd Iau, Mawrth 23, yn Theatr Derek Williams.

“Yn anffodus bydd rhaid gohirio Eisteddfod Rhanbarth Uwchradd Meirionnydd fory oherwydd y rhew ac eira,” meddai eu neges nhw.

“DYDDIAD NEWYDD – Dydd Iau 23ain o Fawrth, Theatr Derek Williams (ar ôl oriau ysgol.)

“Diolch i bawb a byddwch yn ofalus yn y tywydd garw!”

Cwm Rhondda

Mae Eisteddfod Cylch Rhondda wedi cyhoeddi dyddiad newydd.

“!!Dydd Llun 20ain o Fawrth!! Dyddiad newydd Eisteddfod Cylch Rhondda 2023!Ysgrifennwch yn y dyddiadur!,” meddai Urdd Cymoedd Morgannwg.

Maldwyn

Newid lleoliad sydd ar y gweill ym Maldwyn.

“Lleoliad Eisteddfod Sir Uwchradd Rhanbarth Maldwyn wedi symud i Neuadd Gymunedol Trefeglwys ar Ddydd Sadwrn 18/03/2023,” meddai Urdd Rhanbarth Maldwyn.

“Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn cyn gynted sy’n bosib. Diolch am eich cydweithrediad.”

Conwy

Mae Eisteddfod Cylch Uwchaled wedi cyhoeddi dyddiad newydd.

“!!Eisteddfod Cylch Uwchaled WEDI AILDREFNU!! Yn anffodus bydd rhaid gohurio’r Eisteddfod oherwydd y rhew a’r eira! DYDDIAD NEWYDD – 4:00ymlaen, Nos Fercher y 15fed o Fawrth yn Ganolfan Cerrigydrudion,” meddai Urdd Conwy.

“Bydd mwy o fanylion i ddilyn dydd Llun. Diolch i bawb a cymerwch ofal!”

Eryri

Mae cystadleuaeth bêl-droed i ferched wedi’i haildrefnu yn Eryri.

“Oherwydd rhagolygon tywydd mae Cystadleuaeth Pêl-droed Ferched Eryri fory wedi cael ei haildrefnu,” meddai Urdd Eryri.

“Gwybodaeth wedi cael ei anfon allan i Ysgolion oedd wedi cofrestru.

“Am fwy o wybodaeth: jordanthomas@urdd.org”

Wrecsam

Bydd Eisteddfod Cylch Wrecsam yn cael ei chynnal, ond awr yn hwyrach na’r disgwyl, yn ôl Urdd Fflint a Wrecsam.

“!!EISTEDDFOD CYLCH WRECSAM – YSGOL BRO ALUN!! Mae Eisteddfod Cylch Wrecsam yn Ysgol Bro Alun ymlaen yfory, 11eg o Fawrth.

“Ga i nodi bod Rhaglen y dydd wedi’i wthio ymlaen 1 awr.

“Mae hyn yn golygu bod y rhagbrawf cyntaf yn cychwyn am 9:00yb, a Rhaglen y Prynhawn yn cychwyn am 14:00yp.”

Maelor

Mae Eisteddfod Cylch Maelor wedi’i gohirio, yn ôl Urdd Fflint a Wrecsam.

“Yn anffodus oherwydd y tywydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd o ohirio Eisteddfod Cylch Maelor yfory.

“Bydd dyddiadau ail-drefnu yn cael eu rhyddau cyn gynted â sy’n bosib felly cadwch lygaid allan ar y cyfryngau cymdeithasol. Diolch!”

Bangor Ogwen

Newid lleoliad sydd yn digwydd yn ardal Bangor Ogwen.

“Bydd Eisteddfod Cylch Bangor Ogwen yn Ysgol Y Garnedd, Penrhosgarnedd NID Ysgol Dyffryn Ogwen.

“Rydym yn gweithio ar aildrefnu rhywfaint ar yr amserlen a byddwn yn diweddaru mor fuan a phosib heddiw, yma ar facebook, ar ebyst i’r ysgolion a thrwy ebyst rhieni ar y porth am y rhagbrofion.”

  • Am ragor o newidiadau, ewch i wefannau cymdeithasol yr Urdd yn eich ardal chi.