Bydd criw o storïwyr, cerddorion gwerin ac artistiaid teithiol yn dod ynghyd i adrodd chwedl leol mewn gŵyl ym Machynlleth fory (Mawrth 11).

Fel rhan o Ŵyl y Pethau Bychain yn y dref, bydd Gorllewynwynt yn adrodd chwedl Gwion Bach, y bachgen ifanc dyfodd i fod yn un o feirdd amlycaf Cymru, Taliesin.

Cafodd Gŵyl y Pethau Bychain ei chynnal am y tro cyntaf yn 2019, pan ddaeth criw o’r ardal ynghyd a phenderfynu creu gŵyl werin er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Heno a fory, bydd cerddorion, chwedleuwyr a dawnswyr gwerin yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dros sawl lleoliad yn y dref.

Mae Gorllewynwynt yn cynnwys Catrin O’Neill, Meic Llewellyn a Jonathan Davies, a dewisodd y criw adrodd chwedl Taliesin gan ei bod hi’n gysylltiedig â’r ardal.

“Mae Gwion yn denig o Gantre’r Gwaelod, pam mae’r wlad yna’n boddi, ac yn mynd i fyw yn Nhre Taliesin,” eglura Catrin O’Neill, sy’n byw yn Aberdyfi. 

Fel rhan o brosiect Gorllewynwynt, mae’r arlunydd Nicky Arscott fel arfer yn tynnu lluniau o’r stori sy’n cael ei hadrodd yn fyw.

“Yn anffodus, fydd Nicky Arscott ddim efo ni ar y penwythnos, ond bydd y lluniau gyda ni o’r tro diwethaf.

“Byddan nhw yn y cefndir i bobol weld.”

Nicky Arscott yn darlunio yn yr Ysgwrn

Teithio tu hwnt i Gymru

Mae’r prosiect yn un gweddol newydd, a ddechreuodd ym mis Medi 2022. Ers hynny, maen nhw wedi perfformio yn yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, ym Mlas Glyn-y-weddw yn Llanbedrog, ac yn Amgueddfa Aberystwyth.

Bydd perfformiadau Gorllewynwynt yn mentro tu hwnt i Gymru hefyd, a’r criw yn mynd ar daith i Wlad y Basg yr wythnos nesaf.

“Mae hwnna hollol exciting, dw i erioed wedi bod o’r blaen,” meddai Catrin O’Neill.

“Mae’r prosiect fel arfer yn ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg.

“Bydd o’n Gymraeg a Basgeg, bydd rhywun draw yn y fan yna yn dysgu’r stori ac yn ei hadrodd.”

Dod yn chwedleuwr

Cafodd Catrin O’Neill ei hysbrydoli i ddod yn storïwr gan ei chyn-athrawes Mair Tomos Ifans a bellach mae’r ddwy’n cydweithio.

“Roedd hi’n athrawes Lefel A Drama i mi pan oeddwn yn Nolgellau,” eglura Catrin O’Neill.

“Fe wnaeth hi ffonio tua blwyddyn yn ôl a gofyn a oeddwn i’n ffansio dechrau gweithio yn adrodd straeon.”

Ar ôl ystyried y gwahoddiad, penderfynodd Catrin O’Neill roi cynnig arni.

“Mae ganddi hi a fi ein prosiect cyntaf mewn ysgolion wythnos nesaf, yn dechrau yn ysgolion Corris a Phennal.

“Mae hi’n chwarae’r delyn, a dw i’n chwarae’r gitâr, rydym ni’n cymysgu cerddoriaeth werin efo’r straeon hefyd.

“Doeddwn i ddim yn meddwl blwyddyn ddiwethaf y byddwn i’n dysgu sut i ddweud chwedlau.

“Daeth pobol eraill ataf fi a gofyn a oeddwn eisiau gwneud hyn felly meddyliais mae’n rhaid bod y bydysawd yn ceisio dweud rhywbeth wrtha i!”