Mae Faber Music yn dweud y byddan nhw’n cyhoeddi cyfrol newydd o alawon gan fenywod o Gymru a gwledydd eraill Prydain ym mis Mai.

Daw’r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8).

Bydd Folk Tunes from the Women yn cael ei chyhoeddi ar Fai 5, ac yn tynnu ynghyd dros 150 o alawon gan 100 o gyfansoddwyr benywaidd, a phob un o gefndiroedd, ardaloedd a thraddodiadau gwahanol.

Kathryn Tickell o Northumberland, sy’n chwarae’r pibau a’r ffidil, sydd wedi curadu’r gyfrol a hynny ar ôl i’w ffrind fod yn chwilio am ddarnau gan fenywod i’w dysgu i’w grŵp ffidil, ond sylweddoli bod y rhan fwyaf o ddeunydd wedi’i lunio gan ddynion.

Mae’r rhai sydd wedi cyfrannu at y gyfrol yn gerddorion a chyfansoddwyr newydd a phrofiadol, ac ymhlith y rhai o Gymru mae Mirain Angharad Owen, a’r fam a merch Delyth ac Angharad Jenkins.

Mae Angharad Jenkins yn un o’r tîm sydd wedi rhoi’r gyfrol at ei gilydd

Mae’r gyfrol yn cynnig copi o’r gerddoriaeth a chordiau.

    • Mae modd rhagarchebu’r gyfrol drwy Amazon a gwerthwyr eraill.