Mae gwaith ar ddechrau i greu murlun newydd yn dathlu bywyd a hanes yr athrawes forwrol Ellen Edwards yng Nghaernarfon.

Cafodd trafodaeth i osod cerflun er cof am yr athrawes fordwyo ei dechrau gan y cyflwynydd radio Aled Hughes y llynedd.

Mae lle i gredu bod Ellen Edwards wedi dysgu dros 1,000 o ddynion yn ei hysgol forwrol yn y dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yr hanesydd Elin Tomos ddaeth â sylw diweddar i Ellen Edwards, drwy ei thrafod ar raglen radio ‘Papur Ddoe’ y llynedd ac yn ystod sgwrs gyhoeddus gydag Aled Hughes gafodd ei threfnu gan Osian Owen yn Llety Arall Caernarfon.

Bydd y darn o gelf gan yr artist Teresa Jenellen i’w weld ar wal maes parcio Doc Fictoria Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, a hwn fydd y cyntaf o sawl gosodwaith celf sydd ar droed yn y dref fel rhan o brosiect Canfas gan Galeri Caernarfon.

‘Arloeswraig’

Cafodd Ellen Edwards ei geni yn Amlwch ar Ynys Môn, yn ferch i’r Capten William Francis, a adawodd y môr yn 1814 i agor ysgol fordwyo yn Amlwch.

Dilynodd ôl troed ei thad, gan symud i Gaernarfon yn 1830 ac agor ysgol fordwyo lle derbyniodd dynion Caernarfon, Môn, a Llŷn eu haddysg gan basio arholiadau Byrddau Morol Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

“Roedd Ellen Edwards yn arloeswraig. Nid yn unig y llwyddodd ym myd morwriaeth a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, ond fe ragorodd,” meddai Teresa Jenellen, artist y murlun.

“Roedd hi’n cael ei chydnabod a’i pharchu, gyda llawer o’i myfyrwyr yn cyflawni gyrfaoedd nodedig eu hunain.

“Yn hytrach na phortread, mae’r gwaith yma yn ddathliad o lwyddiant Ellen Edwards a’r ysbrydoliaeth rhoddwyd, nid yn unig i’r dynion a ddysgwyd i fordwyo ar y pryd, ond hefyd, ac efallai yn bwysicach, i’r merched a gwyliodd a dysgodd amdani ar hyd y degawdau.

“Ceisiais fynegi’r teimlad o edrych, i’r gorwel a thu hwnt, gyda phwrpas a gobaith.”

Troi gofodau gwag yn gynfasau

Prosiect peilot gan Galeri Caernarfon yw Canfas, a’i nod yw ymgorffori hunaniaeth pobl Caernarfon mewn llecynnau gwag ac anghofiedig yn y dref.

Bydd y gofodau hyn yn troi’n gynfasau a fydd yn dehongli straeon, atgofion a chwedlau mewn ffordd greadigol.

Mae Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon, yn diolch i Gyngor Gwynedd am eu cymorth a’u cydweithrediad parod i wireddu’r gwaith celf cyntaf.

“Mae gallu cofnodi cyfraniad Ellen Edwards efo gwaith celf o’r safon yma yn ffordd deilwng o gychwyn y prosiect yn Noc Victoria,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r swyddogion perthnasol yn Ffiwsar a Menter Môn am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd i staff yn Adra am eu help efo’r cynllun ym Mro Seiont sydd wrthi’n cael ei wireddu ar yr un pryd a’r prosiect yma.”

Dechrau trafodaeth am osod cerflun o athrawes fordwyo yng Nghaernarfon

Cadi Dafydd

Mae lle i gredu bod Ellen Edwards wedi dysgu dros 1,000 o ddynion yn ei hysgol forwrol yn y dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Hanesydd celf yn “croesawu” trafodaeth am gerflun i Ellen Edwards

Non Tudur

“Dw i’n croesawu unrhyw ddatblygiad sy’n debyg o greu gwaith celf cyhoeddus sy’n berthnasol ac o safon uchel,” meddai Peter Lord