“Pennod goll o’n hanes ynghyd â stori garu dyner a hyfryd” yw disgrifiad Angharad Price o Arlwy’r Sêr, nofel ddiweddaraf Angharad Tomos.

Ac mae’n bosib iawn mai’r nofel hon, sydd wedi’i chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch yw’r fwyaf uchelgeisiol ganddi hyd yma, gyda’r awdur ei hun ei disgrifio fel “nofel am ddelfrydiaeth”.

Mae’r nofel hanesyddol hon, sy’n digwydd dros gyfnod o ganrif, yn dilyn hanes a charwriaeth Silyn Roberts a Mary Parry, dau a roddodd eu bywydau i wasanaethu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (y WEA), a dau nad oes hanner digon o sylw wedi’i roi iddyn nhw hyd yma.

Silyn Roberts a Mary Parry

Brodor o Ddyffryn Nantlle, ardal Angharad Tomos, oedd y bardd a’r sosialydd Silyn Roberts (1871–1930).

Yn un o’r rhai cyntaf i ennill gradd ym Mhrifysgol Bangor, enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902, ac aeth yn weinidog i Lundain a Thanygrisiau.

Treuliodd gyfnod yn y Barri cyn dod yn Drefnydd Addysg Allanol ym Mhrifysgol Bangor.

Yn 1925, sefydlodd Ranbarth Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ond bu farw’n ddisymwth yn 1930 ar ôl bod yn yr Undeb Sofietaidd.

Un o Gymry Llundain oedd Mary Parry (1877–1972), a raddiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn priodi Silyn Roberts.

Bu’n darlithio am gyfnod yn Aberystwyth a theithiodd i ddarlithio yn Nenmarc, gan ymweld â’r wlad yn gyson drwy ei bywyd.

Wrth feddwl am addysg yn Nenmarc y cafodd ei hysbrydoli i ymgyrchu dros sefydlu Coleg Harlech.

Yn dilyn marwolaeth ei gŵr, bu’n Drefnydd y WEA yn y gogledd am bymtheng mlynedd.

‘Nofel am ddelfrydiaeth’

Cawn hanes cynnar y Blaid Lafur, a blas ar galedi bywyd yn ystod y ddau Ryfel Byd.

Yn bennaf, nofel am wŷr a gwragedd yn ceisio adeiladu byd gwell yw hon, a gobaith Angharad Tomos yw y bydd yn ysbrydoliaeth i bobol heddiw.

“Yn y bôn, nofel am ddelfrydiaeth ydy hi, a gwireddu breuddwydion,” meddai Angharad Tomos wrth golwg360.

“Mae hefyd yn wers ymarferol iawn am sut i ddal ati yn wyneb rhwystrau fil, gan gynnwys henaint.”

Cynnyrch y Cyfnod Clo yw Arlwy’r Sêr, a ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil.

Mae Angharad Tomos eisoes wedi gwneud llawer i dynnu sylw at Frynllidiart, man geni Silyn Roberts yn Nyffryn Nantlle.

Sicrhaodd fod llechen yn cael ei gosod ar y tyddyn i gofio dau brifardd, Silyn Roberts a Mathonwy Hughes, ei nai.

Ers dathlu 150 mlwyddiant ei eni yn 2021, mae diddordeb cynyddol wedi bod yn y safle.

Roedd Angharad Tomos hefyd yn un o dair fu drwy Archifau y WEA, gan sicrhau cartref parhaol iddyn nhw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2022.

David Thomas, taid Angharad Tomos

Y trydydd cymeriad yn y nofel yw David Thomas, taid yr awdur.

Bu’n cyd-ymgyrchu gyda Silyn Roberts i sefydlu’r Blaid Lafur yn Sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach bu’n gymydog a ffrind agos i Mary Silyn.

Fo oedd golygydd Lleufer, cylchgrawn y WEA.

Yn ogystal â bod yn stori garu ramantus, yn Arlwy’r Sêr cawn gwrdd â ffigyrau amlwg ym mywyd llenyddol Cymru megis W. J. Gruffudd, T. Gwynn Jones ac R. Williams Parry.

Mae David Thomas yn gymeriad blaenllaw yn y nofel hon, ond nid dyma unig waith Angharad Tomos sy’n olrhain hanes ei thaid.

Wedi graddio ag MPhil, cyhoeddodd Hiraeth am Yfory yn 2001, sef astudiaeth o fywyd a gwaith David Thomas.

Ei hanes o hefyd oedd yn Y Naill yng Ngwlad y Llall (Gwasg Carreg Gwalch, 2022).

Yn y nofel honno, caiff hunanlywodraeth, cyfiawnder cymdeithasol a phwysigrwydd addysg eu trafod, a’r rheiny’n faterion sy’n agos at galon yr awdur.

Daw teitl y nofel o gerdd a ysgrifennodd Silyn Roberts i Mary Parry.

Ond beth sy’n ysbrydoli’r awdur?

“Pobol… syniadau… hanes… sut mae rhai wedi newid hanes, sut mae rhai wedi goroesi digwyddiadau… sut mae rhywrai yn trechu rhwystrau fil, ac eraill yn cael eu llethu gan y peth lleiaf,” meddai.

“Amrywiaeth dynoliaeth, debyg.

“Fy nhaid sgwennodd gofiant Silyn, ac roedd y ddau yn sefydlu’r Blaid Lafur gynnar yn Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd.

“Wyddwn i fawr am Mary, ond dyma ddechrau gwneud ymchwil amdani, a chanfod ei bod yn gymeriad yr un mor ddiddorol.

“Roedd Taid yn cyd-ymgyrchu â Silyn, ac yn byw dros y ffordd i Mary a Silyn ym Mangor yn ddiweddarach.

“Yn archifau’r WEA, gwelais doriad papur newydd yn dangos llun o Mary Silyn yn annerch yng nghyfarfod anrhegu fy nhaid.

“Roeddwn i a’m chwaer yn eistedd yn y sedd flaen, a minnau rhyw naw oed ar y pryd.

“Biti na fyddwn wedi cael ei nabod pan oeddwn yn hŷn.”

Cyfnod y nofel

Mae’r stori yn digwydd dros gyfnod o gan mlynedd, oedd yn dod â her i’r awdur o ran yr hyn y byddai’n ei gynnwys yn ei nofel.

“Roedd rhaid i mi benderfynu ar ba gyfnod oedd y nofel yn ymdrin ag o, a dyma benderfynu y byddwn yn ceisio cynnwys canrif – o tua 1870 i 1970,” meddai.

“Doeddwn i ddim eisiau dilyn patrwm cronolegol, felly rydw i wedi cymysgu’r cyfnodau.”

Roedd y ddwy brif gymeriad eisiau i’r dosbarth gweithiol gael addysg, ac mae’r awdur yn disgrifio Silyn Roberts a Mary Parry fel “pobol ifanc llawn uchelgais oedd eisiau creu cymdeithas decach”.

“Eu gweledigaeth oedd cael addysg prifysgol i’r gweithwyr,” meddai.

“Gobeithio y bydd eu gwaith a’u cenhadaeth fawr yn ysbrydoli cenhedlaeth arall heddiw.”

Mae Arlwy’r Sêr ar gael ers Mawrth 1 mewn siopau llyfrau Cymraeg, drwy wefan Gwasg Carreg Gwalch a gwefan gwales.com.