Mae Clwb Darllen Ffeminstaidd Caerdydd yn cyfarfod ers rhai blynyddoedd bellach, a’u bwriad yw canoli lleisiau menywod a chreu rhwydwaith o fenywod sy’n cefnogi ei gilydd.

Cafodd y clwb ei sefydlu ym mis Ebrill 2019, ac erbyn hyn maen nhw’n cyfarfod yn aml mewn amryw leoliadau dros y ddinas.

Yn dilyn sefydlu’r clwb yng Nghaerdydd, cafodd clybiau eu sefydlu yn Abertawe a Llundain.

Beth yw bwriad y clwb?

“Mae’r clwb yn cwrdd pob rhyw chwe wythnos i siarad am lyfrau sydd naill ai wedi cael eu sgwennu gan fenwyod – a phan dw i’n dweud menywod fi’n meddwl menywod in the widest possible sense, ni’n gynhwysol a trans-inclusive – neu yn canoli merched,” meddai Enfys Dixey, aelod o bwyllgor y clwb, wrth golwg360.

“Ni’n trio newid rhwng ffuglen a ffeithiol ond mae’r stwff wastad yn cael ei drafod trwy lens ffeministaidd.

“Mae llyfrau’n gallu sbarduno pob math o sgyrsiau, hyd yn oed os wyt ti’n trafod llyfr ffuglen sydd jest yn stori.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n darllen gwaith gan ferched neu sy’n canoli merched achos, yn draddodiadol, dydy lleisiau merched heb gael eu canoli.

“Mae’r llyfr ry’n i jest wedi bod yn darllen, Unwell Women, i gyd am iechyd a systemau iechyd a meddyginiaethau a sut mae patriarchaeth a’r systemau sydd mewn lle yn cael effaith ar ein bywydau ni heddiw.

“Mae cymaint o ddewis nawr sy’n anhygoel a doedd e ddim fel yna rhai blynyddoedd yn ôl.

“Mae pethau fel mis LDHTC+, Pride a Mis Hanes Pobol Ddu yn ehangu’r stwff ry’n ni’n darllen hefyd.

“Mae be ry’n ni wedi darllen gan leiafrifoedd ethnig wedi bod yn anhygoel achos dyna’r lleisiau sydd ddim yn cael eu chwyddleisio.

“Gan fy mod i’n fam, efallai byddwn i’n troi at lyfrau sy’n ymwneud â hynny, ond mae’r clwb yn gwneud i fi ddarllen stwff byddwn i ddim efallai’n pigo lan a dysgu mwy am brofiadau menywod eraill a phobol eraill.

“Mae’r clwb hefyd yn dangos bod merched yn gallu mynd ymhellach na chick lit a phethau mwy ysgafn, er mae yna le i’r llyfrau yna.

“Ond ry’n i’n cynnwys cymysgedd o’r llyfrau ysgafnach yna a llyfrau sy’n trafod pynciau anoddach.”

Ond mae’r trafodaethau yn mynd y tu hwnt i lyfrau.

“Ni wastad yn dechrau sgyrsiau o’r llyfr ond ni’n gallu mynd i bob cyfeiriad,” meddai.

“Does dim pwysau i ddarllen canran penodol o’r llyfr, jest ymuno am sgwrs.

“Dyw e ddim jest yn glwb ddarllen, mae o’n rhoi rhyw fath o rwydwaith i fenywod.

“Mae’n bwysig hefyd ein bod ni’n dod â menywod at ei gilydd i drafod mewn ffordd sydd ddim yn rhoi pwysau ar bobol.”

Clwb cynhwysol

Cafodd y clwb ei sefydlu gyda’r bwriad o fod mor gynhwysol â phosib, yn ôl Enfys Dixey.

“Un ffordd ni’n gwneud hyn yw trwy gwrdd adegau gwahanol,” meddai.

“Ni fel arfer yn cwrdd ar fore Sadwrn – mae hwnna’n amser da i rieni neu bobol sy’n gweithio yn yr wythnos.

“Ni hefyd weithiau’n cwrdd gyda’r nos i drafod traethodau neu straeon byrion, felly mae hwnna’n opsiwn arall i bobol ddod at ei gilydd gyda’r nos os dydyn nhw methu dod yn y dydd.

“Ni’n cwrdd mewn gwahanol lefydd yng Nghaerdydd hefyd a ni wastad yn gwneud siŵr bod e’n ofod hygyrch, mae hwnna’n bwysig.

“Mae ystod rili eang o oedrannau yn dod sy’n dda.

“Mae rhai’n fyfyrwyr, rhai’n rhieni, ac mae’n neis os ti jest wedi symud i Gaerdydd fel ffordd o gwrdd â phobol.

“Mae yna ystod o swyddi hefyd – mae rhai’n nyrsys neu’n ddoctoriaid, rhai eraill yn y brifysgol…

“Ond be sy’n cysylltu ni yw ffeministiaeth.”

Mae’r clwb hefyd yn sicrhau eu bod yn darllen gwaith gan ac sy’n canoli amryw leisiau.

“Ni’n trans-inclusive, cynhwysol i bobol non-binary – pawb.

“Weithiau ni’n mynd gyda themâu fel mis hanes LDHTC+ ni’n dewis llyfr gan rywun sy’n cwiar neu’n sgrifennu am brofiadau pobol LDHTC+, a Mis Hanes Pobol Ddu ni’n darllen gwaith gan awduron du.”

Cangen iaith Gymraeg

Mae gan y clwb fwriad hefyd i sefydlu cangen iaith Gymraeg, ond mae’n profi’n heriol gan mai gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y clwb.

Daeth y syniad ar ôl i Enfys Dixey weld yr awdur a’r berfformwraig Mari Elen yn darllen cerdd am lwyth meddyliol merched.

“Ro’n i’n meddwl bysa hwnna’n ddarn rili da i drafod mewn noson fwy ymlaciol,” meddai.

“Byddai hwnna’n lle da i ddechrau achos mae llyfr yn gallu bod yn drwm ac yn gallu bod yn llethol, yn enwedig os dwyt ti ddim fel arfer yn darllen yn y Gymraeg.

“Bydde hwn hefyd yn dda i bobol sydd jest eisiau ymarfer eu Cymraeg.

“Felly’r bwriad yw dechrau gyda cherddi cyfoes sy’n cyffwrdd â rhywbeth fel y llwyth meddyliol, ac yn y diwedd ti’n endio lan gyda rhyw fath o support group.

“Fi’n nabod llwyth o ferched yng Nghaerdydd sy’n feminists ond efallai ddim yn meddwl am eu hunain fel feminists, felly fi’n meddwl bod yna gap.”