Mae Gŵyl y Ferch yn dychwelyd am y pedwerydd tro heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8) ar Ddydd Rhyngwladol y Merched gyda noson o ffilmiau byrion.
Bydd ffilmiau gan 19 o wneuthurwyr ffilm benywaidd yn cael eu dangos yng nghanolfan Pontio ym Mangor heno.
Bydd cyfle am ddiod a sgwrs ym Mar y Ffynnon am 7 o’r gloch, a bydd y ffilmiau’n dechrau am 8 o’r gloch.
Menter gymdeithasol sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn y gogledd yw Gŵyl y Ferch, gafodd ei sefydlu yn 2019.
Ei hamcanion yw darparu llwyfan i fenywod creadigol y gogledd, gwella hygyrchedd i’r celfyddydau trwy ddigwyddiadau rhad ac am ddim a fforddiadwy, ac i godi arian a phartneru gydag elusennau lleol sy’n helpu menywod.
Cafodd Gŵyl y Ferch ei sefydlu ar sail yr athroniaeth fod gan gelfyddyd le mewn cymdeithas, a bod modd ei defnyddio fel sbardun ar gyfer newid cymdeithasol.
Bydd pob elw o’r noson yn cael ei roi i Gorwel, uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin, sy’n cefnogi pobol sy’n dioddef trais yn y cartref neu gefnogi pobol rhag colli eu cartref ac atal digartrefedd.
‘Yma i roi’r llwyfan’
Yn ôl un o gyd-sylfaenwyr yr ŵyl, yr artist Ffion Pritchard, mae digon o dalent ymysg merched y gogledd.
“Pan ddaru’r sinema gychwyn, merched oedd yn gwneud y ffilmiau – merched oedd yn sgrifennu, yn cyfarwyddo, yn golygu – a merched oedd yn mynd i’r sinema,” meddai wrth golwg360.
“Ond efo amser, wrth i fwy o arian fynd mewn i wneud ffilmiau, aeth o’n fwy male-dominated, ac erbyn hyn mae’n eithaf patriarchaidd, y ffordd mae merched yn cael eu tangynrychioli ym myd ffilm.
“Dydy cyfarwyddwyr benywaidd ddim yn cael eu gwaith wedi’i gydnabod digon, nac ysgrifenwyr chwaith.
“Mae’n treiddio trwy’r diwydiant.
“Rydan ni’n meddwl bod y dalent yna gan ferched yn lleol, felly rydan ni jest yma i roi’r llwyfan.
“Wnaeth o gychwyn mewn ffordd eithaf anffurfiol gyda projector yn Oriel CARN yng Nghaernarfon, ac roedden ni’n gwneud noson o ffilmiau.
“Ond mae o wedi esblygu erbyn hyn, ond blwyddyn yma rydan ni am ganolbwyntio ar ffilmiau’n unig.”
Gwaith ‘calonogol’
Mae’r ffilmiau fydd yn cael eu dangos heno yn amrywio o 90 eiliad i hanner awr o hyd, ac wedi’u creu gan wneuthurwyr ffilm ym mhob cam o’u gyrfaoedd.
“Mae’r ffilmiau’n ofnadwy o amrywiol,” meddai Ffion Pritchard.
“Mae rhai’n arbrofol, abstract, mae yna ddogfennau, ffilmiau naratif am bob mathau o bynciau.
“Pan rydan ni’n rhoi’r galwadau agored yma allan nid yn unig safon y gwaith sy’n galonogol, ond hefyd pa mor eang ydyn nhw a faint o bynciau gwahanol ac arddulliau gwahanol sydd.
“Rydan ni’n trio cynrychioli artistiaid newydd ac artistiaid mwy profiadol, felly mae gennym ni bobol sydd wedi arddangos yn fyd-eang a phobol sydd wedi ennill BAFTAs, ac mae gennym ni lot o artistiaid sydd hefyd yn gweld eu gwaith ar y sgrîn fawr am y tro cyntaf.
“Mae hynna’n gyfle rili da i allu’i roi i bobol.”
Ymhlith y rhai fydd yn dangos eu ffilmiau byrion heno mae Emily Morus-Jones, Lindsay Walker, Ffion Pritchard, Rebs Fisher-Jackson, Cara Louise Jones, Gwenno Llwyd Till, Rebecca F. Hardy, Kaya Fraser, Clare Marie Bailey, Wanda Garner, Efa Blosse-Mason, Chris Bird-Jones, Lucy Jenkins, Lal Davies, Oona Helena Koivula, Naija Bagi, Jenny Cashmore, Kerry Baldry a Gemma Lowe.
Mae tocynnau ar gael ar wefan Pontio.