Fel sawl un ohonoch mae’n siŵr, yn ddiweddar rwy’ wedi sylwi ar yr holl sôn am ‘Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched’. O hysbysebion am ddigwyddiadau ysgolheigaidd mewn prifysgolion i ddisgownt o 22% ar eli corff i ferched sy’n gwneud Triathlon (Ia, wir!), mae fy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn fy argyhoeddi fod y diwrnod ar ei ffordd – a hynny wedi ei deilwra drwy algorithmau ar sail fy niddordebau a ‘hanes chwilio’.
Ond beth yn union yw’r ŵyl yma rydym yn ei dathlu ar Fawrth 8 bob blwyddyn? Pryd ddechreuodd o a pham? A beth mae’n ei olygu i ni yn y Gymru gyfoes?
Hanes a datblygiad
Mae gwreiddiau’r diwrnod yn deillio ’nôl i 1908, pan wnaeth 15,000 o ferched gweithiol fynd ar streic, a gorymdeithio trwy ddinas Efrog Newydd i fynnu amodau a hawliau gweithio gwell, ynghyd â’r hawl i bleidleisio. Flwyddyn yn ddiweddarach, i anrhydeddu’r ymgyrch, fe wnaeth Plaid Sosialaidd America gynnal y ‘Diwrnod Cenedlaethol Merched’ cyntaf (Chwefror 28, 1909).
Y flwyddyn ganlynol, cynhaliwyd cynhadledd sosialaidd ryngwladol i weithwyr benywaidd yn Copenhagen, lle cynigiwyd y syniad o ‘Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (Gweithiol)’ gan Clara Zetkin. Roedd 100 o ferched yn y gynhadledd, o 17 gwlad, a derbyniwyd y cynnig.
Diddorol yw nodi fod Zetkin o’r farn taw sosialaeth oedd yr unig fudiad “a allai wir wasanaethu anghenion merched dosbarth gweithiol” – a bod ffeministiaeth i ferched breintiedig y dosbarth canol ac uwch. Ar y llaw arall, wrth gwrs, nid oedd gan yr un ferch bleidlais ar y pryd, ac roedd anghydraddoldebau ar sail rhywedd yn ddwfn iawn.
Ar Fawrth 19, 1911, y cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyntaf. Fe’i dathlwyd yn Awstria, Denmarc, yr Almaen, a’r Swistir, gyda ralïau gafodd eu mynychu gan dros filiwn o ferched a dynion.
Rhwng 1913 ac 1914, fe ddaeth protestio yn erbyn y Rhyfel Mawr yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, fel rhan o’r mudiad heddwch. Yn ddiweddar, fues i’n rhan o brosiect celf a barddoniaeth sy’n gysylltiedig â dathliadau canmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923.
Yn 1917, a Rwsia yng nghanol rhyfel, aeth merched gweithiol Rwsia ar streic eto dros ‘fara a heddwch’. Digwyddodd hyn ar ddydd Sul olaf Chwefror (y calendr Julianaidd) sef Mawrth 8 yn y calendr Gregoraidd. Ymwrthododd y Czar, a rhoddodd y llywodraeth dros dro yr hawl i bleidleisio i fenywod.
Ers y dyddiau cynnar hyn, mae hawliau gweithwyr, hawliau merched – a hawliau merched gweithiol – wedi datblygu a gwella. Er, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fyswn yn taeru bod yr hawliau hyn wedi cael eu herydu a’u herio, gan gynnwys ein hawliau i streicio a phrotestio (mwy am hyn mewn erthygl ar y gweill).
Heddiw yn rhyngwladol ac yng Nghymru
Erbyn hyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Merched am ymgyrchu a dychmygu cydraddoldeb drwyddi draw i bawb, gan herio rhagfarn, a dathlu llwyddiannau merched. Ond nid yw hyn yn fater syml, gan fod anghydraddoldebau ar sail amrywiaeth o nodweddion yn golygu ein bod ni yn dechrau’r un tasgau o lefydd gwahanol, ac felly nid oes gennym yr un cyfle o’r cychwyn. A dyma thema 2023 Blwyddyn Genedlaethol y Merched #embraceequity.
Mae’r thema yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng y cysyniadau o gydraddoldeb ac ecwiti. Os defnyddiwn yr enghraifft o ras fa’ma, medrwn dychmygu lonydd rhai o’r rhedwyr yn glir, tra bod eraill yn fwy fel lôn mabolgampau, sy’n gofyn i’r cystadleuydd rasio gydag ŵy ar lwy, a heriau tebyg. Gwelais gartwn ar Facebook un tro oedd yn dangos lôn pobol Fyddar hefo crocodeil ynddi! Doniol iawn, a throsiad da.
Y pwynt yw, mae anghydraddoldebau yn golygu bod cyrraedd unrhyw nod yn cymryd mwy o ymdrech i’r sawl sydd yn byw hefo rhai nodweddion, mewn cymdeithas sy’n creu heriau ar eu sail nhw. Mae’r heriau yn cynnwys rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia, an/ablaeth, ac agweddau eraill sydd wedi eu gwahardd dan y gyfraith, ond sydd yn dal yn bresennol.
I weithredu er mwyn sicrhau ecwiti, mae angen tynnu’r crocodeil o’r lôn, megis pasio Deddf Iaith BSL yng Nghymru sy’n rhoi statws cyfartal iddi fel iaith hefo’r Gymraeg a Saesneg, a thrawsnewid ein meddylfryd o ablaeth a chlywediaeth (audism), i un o gynwysoldeb a hygyrchedd.
Dathlu merched gweithiol
Felly, mae Diwrnod Rhyngwladol Merched yn gyfle i ni ddathlu llwyddiannau merched, yn enwedig merched gweithiol. Gwelais fideo wrth bori’r we, yn dathlu merched medrus, llwyddiannus, enwog. Ond i mi, mae hi yr un mor bwysig i ddathlu merched ein cymunedau – ein harwyr beunyddiol nad ydyn nhw fel arfer yn cael sylw.
Dyma wnes i yn rhifyn Gwanwyn 2022 Barddas, gan olrhain hanes fy Hen Fodryb Gwladys, mewn ysgrif a cherdd. Medrwch ‘mofyn gopi o wefan Gwales ac mae’r gerdd wedi ei hailgyhoeddi yn y flodeugerdd The Frontline Collection, wedi ei golygu gan Rufus Mufasa, merch weithiol arbennig, ac un o fy arwyr personol.
A wna i eich gadael chi hefo digwyddiad perthnasol draw ym mro fy mebyd, sy’n wledd o ferched gweithiol talentog. Mwynhewch!