Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, byddai’n “gywilydd” pe bai mamau yn gorfod teithio i Loegr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, a hynny drwy’r Saesneg,
Mae’r Gymdeithas yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg wedi iddyn nhw ddweud eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr i ddatblygu uned ar y cyd yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Ar hyn o bryd, mae’r unig uned arbenigol yng Nghymru ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yn Abertawe, ac er y bu trafod sefydlu uned yng ngogledd-ddwyrain Cymru a fyddai’n gwasanaethu rhannau o Loegr yn ogystal â Chymru, y bwriad nawr yw adeiladu uned yn Swydd Caer.
Daw hyn yn dilyn honiadau “nad oes digon o alw” i gyfiawnhau uned ar ei phen ei hun yng ngogledd Cymru.
Mae dadl iaith wedi cael ei sbarduno ac yn ôl y Gymdeithas, byddai’n gywilydd pe na bai modd i siaradwyr Cymraeg gyfathrebu yn Gymraeg, a hwythau eisoes mewn sefyllfa fregus.
Mae’r Gymdeithas yn dweud bod tystiolaeth glir fod cleifion yn fwy cyfforddus a hyderus i drafod salwch yn eu mamiaith ac na ddylai’r mamau gael eu hamddifadu o’r gallu i wneud hynny.
‘Cefnu’ ar egwyddorion craidd strategaeth ‘Mwy na Geiriau’
Cafodd y mater ei godi ar lawr y Senedd, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi’u siomi gan ymateb Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
“Prin y gwnaeth y Gweinidog grybwyll pryderon ynglŷn â darpariaeth Gymraeg, dim ond cydnabod ei fod yn bwysig a nodi y bydd yn cael ei drafod gyda GIG Lloegr. Ond mae angen cynllunio darpariaeth yn fwriadus, o’r dechrau,” meddai’r Gymdeithas.
“Rhaid gofyn a oedd y Gymraeg yn ystyriaeth o gwbl wrth gynllunio’r uned yma, ac yn bwysicach, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i famau a theuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg?”
Dywed Gwerfyl Roberts, cadeirydd Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith mai “merched ar eu mwyaf bregus sydd dan sylw fan hyn”.
“Gallwn ond dychmygu eu sefyllfa hunllefus a fyddai’n gwaethygu’n arw o fod mewn awyrgylch lle mae popeth yn teimlo’n anghyfarwydd, yn enwedig yr iaith o’u cwmpas,” meddai.
“Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n rhaid i’r driniaeth fod yn ieithyddol briodol neu mae yna beryg na fydd yn effeithiol – na hyd yn oed yn addas ar gyfer yr unigolyn.
“Mae digon o dystiolaeth i ddangos os am gyrraedd rhywun mewn gwewyr meddwl fod rhaid ar gyfathrebu effeithiol sy’n briodol i’w anghenion iaith.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cefnu ar egwyddorion craidd ei strategaeth Mwy na Geiriau wrth beidio lleoli’r uned hon yng Nghymru.”