Am y tro cyntaf yn hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru wedi’i ethol ar gyfer 2022-23,

Deio Owen, Swyddog y Gymraeg ar hyn o bryd, fydd yn ymgymryd â’r rôl.

Daw hyn yn dilyn chwe blynedd o ymgyrchu dros greu’r rôl, a deugain mlynedd ers sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae Deio Owen, sy’n wreiddiol o Bwllheli, yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth.

Roedd yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Gymraeg y llynedd, ac mae wedi bod yn ymgyrchu dros greu’r rôl newydd wrth gyflawni ei rôl wirfoddol fel Swyddog y Gymraeg drwy gydol ei drydedd flwyddyn yn y brifysgol.

Bydd yn dechrau yn y rôl ym mis Gorffennaf eleni wedi iddo gwblhau ei astudiaethau.

Taith hir i gydnabod lleisiau myfyrwyr Cymraeg

Mae gwaith diddiwedd wedi mynd mewn i sicrhau’r rôl newydd yma, yn ôl Deio Owen.

“Ti’n sôn am ddegawdau o bobol yn ymgyrchu am UMCC fel undeb Cymraeg yng Nghaerdydd, a hefyd pobol yn mynd ymlaen a thrio cael swydd gyflogedig fel sydd ym Mangor, Aberystwyth, ac Abertawe erbyn rŵan,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna brotestio wedi bod, mae yna gynigion wedi bod o flaen yr AGM, mae yna ddadleuon, refferendwm…

“Mae yna lot o bethau gwahanol wedi mynd o’i chwmpas hi ac yn 2021, o’r diwedd, roedden ni’n llwyddiannus yn cael y bwrdd i gytuno bod angen am swydd llawn amser.

“O gofio mai Prifysgol Caerdydd ydi’r brifysgol fwyaf yng Nghymru, a hefyd efo corff mor fawr o fyfyrwyr Cymraeg, mae cydnabyddiaeth o bwysigrwydd siaradwyr Cymraeg yn y brifysgol yn dangos nad prifysgol yng Nghymru ydi Prifysgol Caerdydd, ond prifysgol Cymraeg.

“Mae’n dangos a chydnabod bod llais myfyrwyr Cymraeg o bob cefndir yn bwysig a’n bod ni yma, a rŵan efo ffordd gadarnhaol o wneud newid, nid yn unig o ran gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg, ond hefyd cyflwyno’r Gymraeg i bob myfyriwr – eu bod nhw’n cael y cyfle i ddysgu am Gymru a’r Gymraeg tra eu bod nhw yma.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod y bobol sydd wedi bod yn ymgyrchu am hyn dros y blynyddoedd.

“Mae yna lot ar Twitter wedi bod yn dweud sut maen nhw wedi bod yn rhan o’r ymgyrch, felly mae’n dda gweld bod cymaint o gefnogaeth wedi bod ac sydd dal i fod.”

Gwella dwyieithrwydd a gwelededd yr iaith

Er bod Deio Owen yn cyfaddef mai ffeindio ei draed yn y rôl fydd ei amcan gyntaf, un o’i amcanion yw gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol o fewn y brifysgol.

“Dw i eisiau parhau i adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan bobol o flaen fi,” meddai.

“Dw i eisiau sicrhau bod y Gymraeg yn weledol o fewn yr undeb a’r brifysgol.

“Mae gennym ni Ganghellor newydd yn dechrau yng Nghaerdydd felly dw i’n edrych ymlaen at weithio efo hi a fydd o’n ddiddorol gweld sut allwn wella dwyieithrwydd o fewn y brifysgol.”