“Byddai’n wych o beth petai mwy ohonom yn gwneud mwy o lawer o’n siopa yng nghanol y dref,” yn ôl Cynghorydd tref yng Nghaernarfon, fu’n ymateb i sylwadau dynes leol am ddirywiad y dref.
Yn ôl y ddynes, sydd eisiau aros yn ddienw, mae Stryd y Llyn wedi dirywio, efo siopau wedi cau.
Ond yn ôl Olaf Cai Larsen, mae llai o siopau ar Stryd Fawr nifer o drefi eraill ledled y Deyrnas Unedig erbyn hyn, a dydy sefyllfa tre’r Cofis ddim yn unigryw.
Mae’r ddynes yn dweud bod cyfleusterau Caernarfon wedi dirywio, a bod pethau’n well yn yr hen ddyddiau, gyda mwy o siopau, perchnogion yn ymfalchïo yn eu busnesau, ac ysbryd cymunedol ar waith.
“Does na ddim siop llysiau yma dim mwy,” meddai.
“Mae dau le betio; be’ sydd eisiau dau le betio yn Stryd Llyn?
“Does yna ddim siop ’sgidiau gall yma, dim siop trydan…
“Edrych beth oedd gen ti yn Stryd Llyn ers talwm – Woolworth’s, Curry’s, lle Tseinïaidd, Ross, caffi National Milk Bars, Banc Natwest, siop ’sgidiau rownd y gornel o fferyllfa Rowlands rŵan.
“Siop fach oedd o’n gwerthu ’sgidiau Clarks.
“Roedd y busnes ar y Maes cyn fy amser i.
“Yr unig stryd maen nhw wedi’i chadw yn weddol ddel ydi Stryd Palas.
“Dos i’r archifdai i edrych ar hen luniau’r dre’, ac roedd siopau werth eu gweld, rhai ohonynt.
“Roedd pobol ers talwm efo balchder yn eu shop front, yn glanhau stepen drws, pobol yn siarad hefo’i gilydd, dim pen mewn ffôn symudol.”
‘Yr unig ddatrysiad’
Yn ôl Olaf Cai Larsen, sy’n gynghorydd tref Caernarfon, dydy’r dirywiad yn yr amrywiaeth o siopau sydd ar gael yng Nghaernarfon ddim yn unigryw i Gaernarfon.
Y broblem, meddai, yw fod pobol yn gwneud eu siopa lai yng nghanol trefi yn yr oes sydd ohoni.
“Yn anffodus, mae Caernarfon, fel llawer o drefi eraill ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, wedi dioddef tros y degawdau diwethaf, ac mae’n wir fod llai o amrywiaeth o ran siopau nag a fu.
“Y prif reswm am hyn ydi bod patrymau siopa wedi newid ac mae llawer llai o bobol yn siopa yng nghanol trefi erbyn hyn.
“Mae Caernarfon yn dref o dros 10,000 o bobol, ac mae miloedd lawer o bobol yn byw o fewn rhai milltiroedd i’r dref.
“Byddai’n wych o beth petai mwy ohonom yn gwneud mwy o lawer o’n siopa yng nghanol y dref.
“Yn y pen draw, dyna’r unig ddatrysiad i ddiffyg llewyrch trefi bach fel Caernarfon.”