Mae cyrff gwarchod bywyd gwyllt Cymru wedi gwneud galwad frys i annog pawb i ddod ynghyd i atal byd natur y wlad rhag cael ei ddinistrio.
Daw galwad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, WWF Cymru ac RSPB Cymru wrth i Syr David Attenborough ddweud bod rhaid gweithredu nawr.
Cafodd pennod gyntaf cyfres newydd David Attenborough, Wild Isles, ei darlledu neithiwr (nos Sul, Mawrth 12), a chlywodd gwylwyr pa mor rhyfeddol a bregus ydy natur gwledydd y Deyrnas Unedig.
Bydd ymgyrch Achubwch ein Hynysoedd Gwyllt yn tynnu sylw at sut mae natur yn sail i bopeth yn ein bywydau ac at ba mor ddifrifol yw’r perygl iddo.
Mae’r ymgyrch yn galw ar y cyhoedd i ddangos eu cariad at fyd natur drwy ymrwymo i “fynd yn wyllt unwaith yr wythnos”, a gall hynny olygu gwneud lle i fynd natur yn yr ardal drwy blannu hadau blodau gwyllt mewn bocs ffenestr neu fan gwyrdd, bwyta llai o gig, cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol, neu ymaelodi ag elusen.
Ynghyd â hynny, mae arolwg YouGov newydd, gafodd ei gomisiynu ar gyfer yr ymgyrch, yn dangos bod 73% o bobol yng Nghymru yn poeni am gyflwr byd natur y Deyrnas Unedig.
‘Natur yn sail i bopeth’
Mewn datganiad ar y cyd, dywed RSPB Cymru, WWF Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fod bywyd gwyllt a mannau gwyllt Cymru’n cael eu dinistrio’n “frawychus o gyflym”.
“Mae niferoedd enfawr o anifeiliaid, adar a chynefinoedd wedi cael eu dileu’n llwyr yn ein hoes ni, a rhaid i ni nawr dderbyn bod argyfwng yn wynebu ein heconomi, yr hinsawdd a sefydlogrwydd cenedlaethau’r dyfodol sy’n byw yn ein hynysoedd gwyllt i gyd, os na weithredir ar frys ac ar y cyd,” meddai’r datganiad.
“Mae natur yn sail i bopeth sy’n gwneud ein bywydau’n bosibl – fel yr aer rydyn ni’n ei anadlu, y dŵr glân rydyn ni’n ei yfed a’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
“Dyma ein system cynnal bywyd, ac mae’n amlwg bod adferiad natur, a’r awydd i wrthdroi’r niwed rydym wedi’i achosi dros y ddwy ganrif ddiwethaf, yn faterion sy’n uno pob un ohonom. Gyda’n gilydd, gallwn achub ein hynysoedd gwyllt.
“Mae’r her yn enfawr, ac mae angen gweithredu’n gyflym, ond mae gobaith.
“Mae’r wyddoniaeth yn glir ynghylch beth sydd angen i ni ei wneud, ac mae pobl anhygoel eisoes yn trawsnewid ffermydd, busnesau, arfordiroedd, mannau trefol, rhwydweithiau trafnidiaeth, cyflenwadau ynni a chymunedau er mwyn byd natur. Ond mae angen llawer mwy o hynny.”
Yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf, mae 38m o adar wedi diflannu o awyr y Deyrnas Unedig, mae 97% o’r dolydd blodau gwyllt wedi cael eu colli ers y 1930au, ac mae chwarter y mamaliaid mewn perygl o ddiflannu.
O’r arolwg, roedd y galw am newid yn glir gyda 53% o bobol Cymru’n dweud nad ydy Llywodraeth Cymru’n gwneud digon i fynd i’r afael â cholli byd natur. Roedd 65% o’r farn nad ydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwneud digon.
‘Pawb yn gorfod chwarae rhan’
“Y gwir ydy, mae pob un ohonom ni, pwy bynnag ydyn ni, neu ble rydyn ni’n byw, yn gallu ac yn gorfod chwarae rhan yn y gwaith o adfer byd natur,” meddai Syr David Attenborough, llysgennad WWF.
“Mae’n hawdd teimlo bod y problemau sy’n wynebu ein planed yn eich llethu neu eich bod yn ddi-rym, ond mae’r atebion gennym ni.
“Rwy’n obeithiol am y dyfodol, oherwydd er bod natur mewn argyfwng, dyma’r amser i weithredu, a gyda’n gilydd gallwn ei achub.”