Mae dadl iaith wedi cael ei sbarduno gan fod rhaid i famau o Gymru deithio i Loegr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl mamau a babanod arbenigol.

Daw yn dilyn honiadau “nad oes digon o alw” i gyfiawnhau uned ar ei phen ei hun yng ngogledd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr i ddatblygu uned ar y cyd yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Mae disgwyl i uned mamau a babanod wyth gwely Ysbyty Countess of Chester groesawu eu mamau a’i babanod cyntaf tua diwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf y flwyddyn nesaf.

Ar hyn o bryd, mae cleifion o Gymru yn cael cynnig mynd i unedau ym Manceinion, Chorley, Birmingham neu Nottingham, ynghyd ag Uned Gobaith ger Abertawe.

Mae’r mater wedi codi pryderon na fydd siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gallu cyfathrebu yn eu mamiaith mewn sefyllfa fregus.

‘Penderfyniad gwael’

Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi beirniadu’r penderfyniad.

“Bydd yr uned mamau a babis newydd fydd yn agor yn 2024 yn cynnig cefnogaeth arbenigol i famau sy’n profi problemau iechyd meddwl, ac mae’r uned wedi cael ei dylunio i gefnogi mamau dros ogledd Cymru – ond bydd yn Lloegr,” meddai.

“Mae Caer yn bell o Amlwch.

“Mae hwn yn benderfyniad gwael.

“Dw i’n siomedig iawn na fydd yr uned wedi’i lleoli yn rhanbarth Betsi Cadwaladr.

“Pam ddim gosod yr uned wyth gwely yn fwy canolog yng ngogledd Cymru, gwneud o’r ffordd arall rownd fel bod cleifion o Loegr yn gallu dod yma?

“Byddai hynny’n sicrhau bod anghenion Cymraeg cleifion Cymraeg yn cael eu hateb, ac mae Saesneg yn cael ei siarad yma hefyd, mae ein gwasanaethau yn ddwyieithog.”

Darpariaeth Gymraeg

Fel rhan o ddarpariaeth Gymraeg yr uned newydd, bydd arwyddion dwyieithog yno, bydd ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg yn cael eu gwahodd i drio am bob swydd, a bydd gwybodaeth recriwtio ar gael yn ddwyieithog.

Bydd hi’n bosib cael mynediad at linell ffôn Gymraeg 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos hefyd, bydd gweithgareddau yn y feithrinfa’n cael eu cynnal yn Gymraeg a Saesneg, a bydd Cymraeg ar waliau’r feithrinfa.

Ond dywed Siân Gwenllian fod y cynlluniau’n rhai “arwynebol”.

“Beth mae menywod eisiau mewn sefyllfaoedd difrifol ydy gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf gyda gweithwyr iechyd, mae’n hanfodol,” meddai.

“Rydyn ni angen uned yng ngogledd Cymru gyda phwyslais ar bobol â sgiliau iaith Cymraeg.”

‘Dim galw digonol’

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth unedau mamau a babanod dros Gymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae uned chwe gwely yn ne Cymru ar hyn o bryd.

“Does yna ddim galw digonol ar gyfer uned fyddai’n sefyll ar ei phen ei hun yng ngogledd Cymru, felly rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr i ddatblygu uned ar y cyd yng ngogledd orllewin Lloegr.

“Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i wella timau cefnogaeth yn y gymuned ar gyfer iechyd meddwl cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth.”

‘Gofal gorau posib’

“Mae’r canllawiau arfer gorau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn awgrymu y dylai unedau mamau a babanod ddarparu rhwng chwech ac wyth gwely er mwyn sicrhau gwasanaeth cynaliadwy o safon uchel,” meddai Dr Alberto Salmoiraghi, cyfarwyddwr meddygol ar gyfer Adran Iechyd Meddwl ac Anawsterau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Mae modelu wedi dangos mai dim ond dau wely ar gyfer cleifion mewnol sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethu poblogaeth gogledd Cymru.

“Gan nad oes yna ddigon o alw i gyfiawnhau uned ar ei phen ei hun yng ngogledd Cymru, rydyn ni wedi gweithio ar y cyd â phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr i ddod o hyd i ddatrysiad sy’n cwrdd ag anghenion mamau yng ngogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn well.

“Bydd dau o’r wyth gwely yn cael eu cadw i fenywod o ogledd Cymru, gan sicrhau mynediad at wasanaeth cleifion mewnol arbenigol yn dipyn agosach i adref nag sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod yr uned newydd hon yn darparu’r gofal gorau posib i famau dros y rhanbarth.”

“Dw i ddim wedi fy mherswadio nad oes yna alw yng ngogledd Cymru,” meddai Siân Gwenllian wrth ymateb.