Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw’n “siomedig”, ar ôl i Gyngor Sir Gâr gymeradwyo cynnig i godi premiwm o 50% ar dreth y cyngor ar gyfer tai gwyliau.
Mae eu siom yn deillio o’r ffaith y bydden nhw wedi hoffi gweld y Cyngor yn defnyddio “grymoedd i fynd i’r afael â gormodedd llety gwyliau yn llawn”, yn ôl Ffred Ffransis, cynrychiolydd rhanbarth Sir Gâr gyda’r Gymdeithas.
“Ond mae problemau tai y sir yn ddyfnach na thai gwyliau ac ail dai yn unig,” meddai.
“Mae tai yn cael eu trin ar y farchnad agored fel asedau masnachol yn hytrach na chartrefi, gan roi pobol ar gyflog lleol dan anfantais.
“Rydyn ni’n gobeithio felly y bydd Cyngor Sir Gâr yn ymuno â’r alwad am ddeddf eiddo i reoleiddio’r farchnad tai a blaenoriaethu pobol leol.”
Mae’r Gymdeithas yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn:
- sicrhau’r hawl i gartre’n lleol
- cynllunio ar gyfer anghenion lleol
- grymuso cymunedau
- blaenoriaethu pobol leol
- rheoli’r sector rhentu cartrefi cynaliadwy
- buddsoddi mewn cymunedau