Yn 1977, cafodd Siân Gwenllian ei hethol yn Ddirprwy Arweinydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth, rhywbeth a fyddai yn ei dro’n rhoi blas iddi ar fywyd ym myd gwleidyddiaeth. 39 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd ei hethol yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Arfon. Cafodd ei hethol i ddechrau yn Gynghorydd Sir Plaid Cymru dros y Felinheli yn 2008, cyn dod yn Aelod Cabinet yng Nghyngor Gwynedd, ac yna mentro i Fae Caerdydd.

Hi hefyd yw Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y Cytundeb Cydweithio rhwng y blaid a Llywodraeth Cymru. Mae’n credu y bydd y Cytundeb yn arwain at newid ystyrlon mewn cydraddoldeb i ferched.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Siân Gwenllian yn trafod ei chyfnod yn y byd gwleidyddol hyd yn hyn, a’i safbwyntiau ar sut mae cydraddoldeb i ferched wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw.


Roedd brwydro dros hawliau merched a chydraddoldeb yn ysgogiad i wleidydda tra roeddwn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yng Nghaerdydd wedi hynny.

Roeddwn wrth fy modd yn trin a thrafod gwaith ffeminyddion y cyfnod, a chefais gyfle i ymuno ag ymgyrch Merched Comin Greenham ar ôl gadael coleg. Roedd yr ymgyrch honno’n drobwynt i lawer o ferched fy nghenhedlaeth i.

Fel Dirprwy Lywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth, roeddwn yn aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth, a fi oedd yr unig ferch o gwmpas llond bwrdd o ddynion. Byddai’r Prifathro bryd hynny, Syr Goronwy Daniel yn ein cyfarch ar ddechrau bob cyfarfod – ‘Fonheddigion…. ac, o, Miss Gwenllian.’ Roedd hynny fel chwifio baner goch yn wyneb tarw, ac mi roedd o’n gwybod hynny’n iawn!

Yn 2008, lleiafrif bychan o ferched oedd yn gynghorwyr sir. Ar un adeg fi oedd yr unig ferch ar Gabinet Cyngor Gwynedd (prin fod pethau wedi newid ers dyddiau Goronwy Daniel!), ac er fy mod yn ffrindiau efo nifer o’m cyd-aelodau o ddynion, ro’n i’n teimlo nad oeddwn i’n perthyn.

Ro’n i’n teimlo fy mod yn bry ar y wal mewn clwb egsgliwsif.

Ond diolch i ymgyrchu hollol fwriadol a threfnus gan ferched y Blaid yng Ngwynedd, mae’r sefyllfa yn dechrau newid. Roeddwn yn hynod o falch ein bod wedi llwyddo i ysbrydoli to o ferched egnïol a hynod ddawnus i ymuno â Chyngor Gwynedd yn yr etholiadau yn 2022.

Mae pethau yn newid – ond yn rhy araf o beth coblyn! Roedd siarad yn y Senedd am y tro cyntaf fel Aelod newydd yn 2016 yn brofiad brafiach na siarad yn y Cyngor am y tro cyntaf – a hynny am fod hanner y Siambr yn ferched a’r chwaeroliaeth yn gryf.

Mae hynny yn ei dro yn golygu fod mwy o bwyslais ar faterion sy’n effeithio ar fywydau merched – materion iechyd menywod, gofal plant, trais yn erbyn merched. Mae llawer mwy o ymwybyddiaeth rŵan am gasineb yn erbyn merched a’r ffordd y mae wedi treiddio i bob rhan o’n bywydau.

Rwy’n hynod o falch o’r cynnydd sydd yn digwydd drwy’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru gydag ehangu gofal plant am ddim yn flaenoriaeth glir. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn mynd i gyflwyno deddfwriaeth i greu Senedd fwy gyda nifer cydradd o ran rhywedd. Bydd hyn yn sicrhau drwy statud fod lleisiau menywod a dynion yn cael eu clywed mewn ffordd hafal – fydd yn arwain at Gymru well i bawb.”

Mae’r gymdeithas batriarchaidd yr ydym yn byw ynddi yn rhoi pŵer i ddynion dros fenywod. Mae’r pŵer yna yn cael ei fynegi yn ei ffurf fwyaf eithafol drwy drais yn erbyn menywod, aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth ddomestig. Ond mae mwy a mwy o ferched (a dynion) yn herio hyn ac yn dweud nad ydynt am ei ddioddef rhagor.

Yn ei dro, mae hyn yn golygu fod llawer o sefydliadau yn gorfod addasu a chreu prosesau a pholisïau cadarn i ddelio efo’r momentwm sydd tu ôl i’r newid diwylliannol yna. Mae’r newid yn arwyddocaol – ac yn fuddiol i bawb.