Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi stop ar gynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd yn “gwbl anghyfrifol yn economaidd”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Bydd y blaid yn defnyddio’u dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8) i wrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo’r rhan fwyaf o’r cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd.
Un o’r prif ystyriaethau oedd sicrhau nad oedd y prosiectau’n arwain at “gynnydd yng nghapasiti’r ffyrdd ar gyfer ceir”.
Fis diwethaf, cafodd adolygiad y panel ei gyhoeddi ac mae 75% o’r cynlluniau wedi cael eu hatal yn llwyr neu eu haddasu, gan gynnwys cynlluniau i adeiladu trydedd pont dros y Fenai.
‘Rhwydwaith drafnidiaeth addas’
Gyda mwy o geir trydan yn ymuno â’r rhwydwaith ffyrdd, “dylai Llafur edrych ar ffyrdd arloesol o ddiogelu trafnidiaeth ar gyfer Cymru’r dyfodol gan ddefnyddio technolegau newydd i gefnogi gyrwyr sy’n mynd yn wyrdd”, yn ôl Natasha Asghar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Drafnidiaeth a Thechnoleg, fydd yn arwain y ddadl.
“Ar yr un pryd, rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru roi hwb i drafnidiaeth gyhoeddus, cynyddu nifer yr opsiynau i bobol stopio defnyddio’u ceir – ond mae’r Gweinidog yn meddwl y dylen ni i gyd fynd ar ein beic, yn hytrach na dal bws,” meddai.
“Mae gweinidogion Llafur yn lleihau cyllid hanfodol ar gyfer bysys, yn lleihau’r arian ar gyfer teithio actif ac yn cwtogi’r buddsoddiad mewn trafnidiaeth gynaliadwy.
“Mae economi Cymru angen rhwydwaith drafnidiaeth sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain a thu hwnt, ac mae pobol Cymru’n haeddu hynny.”
Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i’r Senedd gydnabod bod diffyg ymgysylltu rhwng y panel adolygu ffyrdd a’r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a’r trydydd sector.
Ynghyd â hynny, maen nhw am i’r Senedd nodi eu bod nhw’n credu bod argymhellion y panel adolygu i “roi stop ar gynlluniau i wella diogelwch ffyrdd, mynd i’r afael â thagfeydd, gostwng llygredd aer ac arwain at fuddion economaidd” yn golygu eu bod nhw’n “methu cyflwyno’r seilwaith drafnidiaeth mae pobol Cymru’n ei haeddu”.
‘Dadleuon ffantasiol’
Wrth ymateb i’r ddadl, dywed Paula Renzel, ymgyrchydd ffyrdd a hinsawdd TAN Cymru, fod angen i wleidyddion stopio “honni y bydd ffyrdd yn datrys ein holl broblemau”.
“Rydyn ni angen stopio cael dadleuon ffantasiol a dechrau byw yn y byd go iawn,” meddai.
“Mae lledu ffyrdd yn gwaethygu traffig a thagfeydd ar y cyfan. Rydyn ni wedi gwybod hyn ers can mlynedd.
“Mae anwybyddu’r ffaith hon yn gwaethygu pethau, yn gwastraffu amser ac egni.
“Mae rhaglenni ffyrdd newydd yn cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, yn llyncu symiau anferth o arian, yn dinistrio’r amgylchedd a dydyn nhw ddim yn dod â llawer o arian yn ôl unwaith ydych chi’n ystyried y costau ehangach.
“Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd ac ecoleg, a fedrwn ni ddim parhau i ohirio gweithredu ar fynd i’r afael â’r materion brys hyn.
“Mae cymryd arnom ein bod ni’n gallu fforddio ffyrdd mawr newydd ynghyd â rhwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus dda yn camarwain y cyhoedd.”
‘Codi’r bar’
“Gadewch i mi fod yn hollol glir o’r cychwyn, byddwn ni’n dal i fuddsoddi mewn ffyrdd,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, wrth gyhoeddi canfyddiadau’r panel adolygu fis diwethaf.
“Yn wir, rydyn ni wrthi’n adeiladu ffyrdd newydd ar hyn o bryd! Ond rydyn ni codi’r bar o ran penderfynu mai ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i’r problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.
“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn, gan gynnwys buddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a seiclo.”