Eira’n tarfu ar wasanaethau ledled Cymru

Mae ysgolion ynghau ac oedi ar y ffyrdd

Abertawe fore heddiw (Mawrth 8)

Mae’r eira’n tarfu ar wasanaethau ledled Cymru heddiw (dydd Mercher, Mawrth 8), gydag ysgolion ynghau ac oedi ar y ffyrdd.

Mae rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym ar draws y rhan fwyaf o’r de, y canolbarth a’r gorllewin.

Mae mwy na 100 o ysgolion ynghau, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y de – yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful – gyda rhai ysgolion eraill heb agor yn brydlon.

Mae’r A4061 dros fynydd y Rhigos o Dreherbert i Rondda Cynon Taf ynghau, a dydy hi ddim yn bosib teithio ar yr A469 yn ardal Caerdydd ar hyn o bryd.

Mae cryn oedi ar yr A470 i’r de yn ardal Abercynon, a hefyd i’r de rhwng Nantgarw a chylchfan Coryton.

Pwyll piau hefyd i yrwyr ar yr A465 yng Nglyn Ebwy.

Mae oedi ar fysiau Caerdydd, Merthyr Tudful, Aberhonddu a Chwmbrân, a thagfeydd ar yr A470 i gyfeiriad y de.

Mae nifer o wasanaethau bws First Cymru’n wynebu oedi, tra bod Maes Awyr Caerdydd yn gweithredu yn ôl yr arfer ar hyn o bryd.

Oes yna eira yn eich ardal chi? Anfonwch eich lluniau atom: datganiadau@golwg.com

11:17

Dyma sut mae’n edrych mewn un cornel fach o’r brifddinas erbyn hyn, yn ôl ein Gohebydd Lleol, Lowri Larsen:

11:13

Cafodd y llun hwn ei dynnu gan Nerys Rhys mewn gardd ym Mhengelli, ger Pontarddulais fore heddiw.

Eira mewn gardd ym Mhengelli, ger Pontarddulais. Llun: Nerys Rhys

10:53

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn galw ar bawb i gymryd gofal ychwanegol wrth yrru mewn eira a rhew dros y dyddiau nesaf.

Dylai gyrwyr gofio’r pwyntiau canlynol wrth deithio, meddai:

  • Gwirio rhagolygon tywydd a newyddion traffig yn aml.
  • Gadael digon o le rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen, efallai y bydd angen hyd at ddengwaith y pellter arferol wrth frecio.
  • Gwirio cyflwr teiars, eu gwadn a’u pwysedd aer, gan gynnwys y teiar sbâr.
  • Cadw’r ffenestr flaen yn glir, sicrhau bod digon o hylif golchi, a chadw’r holl ffenestri a drychau’n glir rhag eira, rhew a tharth. 

Mae’r Gwasanaeth hefyd yn nodi ei bod hi’n bwysig bod yn ymwybodol o’r peryglon posib yn y cartref yn ystod tywydd oerach.

Bob blwyddyn ar draws y Deyrnas Unedig, mae tua 5,000 o danau’n cael eu hachosi gan flancedi trydan diffygiol, tra bod 12,000 o danau eraill yn digwydd o fewn simnai.

“Gall cymryd yr amser i ystyried diogelwch yn y cartref yn ystod y gaeaf helpu i ddiogelu eich hun rhag peryglon posib,” ychwanega’r Gwasanaeth.

10:35

Mae dros 30 o ysgolion ar gau yn Abertawe wedi i drwch o eira ddisgyn dros yr ardal.

Mae rhai o wasanaethau’r cyngor wedi dod i stop, gyda dwy ganolfan ailgylchu ar gau a chasgliadau biniau gwastraff wedi cael eu gohirio am y diwrnod.

“Cymerwch ofal wrth fynd o gwmpas heddiw – dydy’r amodau ddim mor arferol â hynny,” meddai Cyngor Abertawe.

Yn ôl lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol, mae haenen denau o eira wedi disgyn ar draeth y ddinas hefyd.