Dechreuodd grŵp o bobol o bob lefel o ffitrwydd gwrdd ym Mangor ar ddydd Gwener, Chwefror 24, ac maen nhw’n cynnal chwe sesiwn gerdded i archwilio’r ardaloedd mwyaf gwyllt a thu hwnt.

Gyda dau dywysydd natur a bywyd gwyllt, maen nhw’n dysgu am y bywyd gwyllt sy’n byw o gwmpas y ddinas gan gymdeithasu a gwella eu lefelau ffitrwydd.

Er bod Bangor yn ardal hardd, hawdd yw anghofio am fyd natur yng nghanol prysurdeb dinas.

Mae sesiynau Bangor Wyllt yn rhan o’r Prosiect Iechyd Awyr Agored ehangach, sydd efo nifer o sesiynau chwe wythnos yn rhedeg.

Cyfleoedd mwy hygyrch

Yn ôl Lauren Wood, arweinydd y sesiynau cerdded, gan fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan ormod o straen ac wedi ei danariannu mae’n ei gwneud yn anodd i feddygon ragnodi pobol, felly mae angen cyllid i bobol gael mwy o gyfleoedd tu allan yn yr awyr agored.

“Y rheswm pam ein bod yn gwneud y prosiect hwn yw oherwydd bod rhywfaint o waith yn dechrau digwydd, ond mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dan lawer o straen,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r prosiect iechyd awyr agored wedi’i gynllunio i wneud cyfleoedd awyr agored yn fwy hygyrch.

“Mae’n anodd oherwydd does dim amser gan feddygon teulu drwy’r amser.

“Dydy meddygon teulu ddim yn gallu ei ragnodi o reidrwydd yn ddibynadwy.

“Does gennym ni ddim cyllid drwy’r amser, felly mae prosiectau yn dechrau a stopio.

“Rydym yn casglu tystiolaeth i brofi bod hyn yn cael effeithiau buddiol difrifol ar iechyd pobol.

“Mae cael cyllid mwy cyson ar ei gyfer yn bwysig iawn, a byddai’n lleihau straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; rydym yn dechrau cael data i brofi hynny.”

Cymdeithasu

Mae bod ymysg bywyd gwyllt yn ffordd haws o gymdeithasu i rai pobol, gan fod ganddyn nhw bethau eraill i dynnu eu sylw fel nad ydy o mor ddwys iddyn nhw.

“Mae natur yn ffordd dda o gymdeithasu, yn enwedig ar gyfer pobl dawel a mewnblyg,” meddai Lauren Wood.

“Mae o fudd i bawb.

“Rydyn ni’n cynnal pethau eraill ar draws Bangor, fel diwrnodau llesiant coetir, ac mae pobol yn dod i eistedd o amgylch y tân ac yn gwneud ychydig o grefftio a chwibanu gyda llwy.

“Gan nad oes pwysau i wneud cyswllt cymdeithasol oherwydd bod pobol yn bennaf yn gwneud gweithgareddau, mae’n helpu pobol i gymdeithasu a bod gyda phobol eraill.

“Mae rhai o’r sgyrsiau sy’n dod ohono yn ystyrlon.

“Gan fod o tu allan, mae gennych chi bethau i edrych arnyn nhw.

“I’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd gwneud cyswllt llygad, does dim unrhyw bwysau.

“Does dim llwythi yn digwydd fel ei fod yn anodd canolbwyntio.”

Y bobol sy’n elwa o gael y sesiynau

Mae’r sesiynau’n addas ar gyfer pawb, ond yn enwedig pobol sy’n brwydro efo iechyd corfforol a/neu feddyliol.

Yn ôl Lauren Wood, maen nhw wedi bod wrthi’n ceisio penderfynu pwy fyddai’n elwa fwyaf ar y sesiynau, gan eu bod nhw’n targedu pobol ag anghenion llesiant yn bennaf.

“Byddai’r rhai â gorbryder a chyflyrau iechyd eraill yn elwa o gael cymorth i fynd allan a chwrdd â phobol newydd,” meddai.

“Efallai bod pobol yn gweithio gyda’u meddyg ar faterion iechyd cronig, efallai y bydd rhai pobl yn hunangyfeirio, efallai nad ydyn nhw’n mynd at y meddyg am eu problemau, ond mae angen yr hwb lles arnyn nhw.

“Pan fyddan nhw’n dod draw, maen nhw’n teimlo’n well felly rwy’n meddwl y gallai unrhyw un elwa ohono.

“Rwy’n meddwl ei fod yn dda yn arbennig i bobol sydd ddim yn teimlo’n gyffyrddus yn cymdeithasu mewn bariau ac sydd angen mannau tawelach ym myd natur.”

Beth sy’n digwydd?

O ran yr hyn sy’n digwydd yn y sesiynau, mae’r mynychwyr yn mynd ar daith gerdded i ddwysau’r cysylltiad rhwng natur a lles.

Yn ogystal â hyn, maen nhw’n gwneud gweithgareddau eraill sy’n ymwneud â natur.

“Mae’r sesiwn Bangor Wyllt yn ffordd i bobol sydd eisiau mynd allan, i fynd allan,” meddai Lauren Wood.

“O ran y prosiectau ehangach, y Prosiect Iechyd Awyr Agored, rydym yn cynnal amrywiaeth o brosiectau chwe wythnos mewn ystod eang o brosiectau i gael pobol allan.

“Ym Mangor Wyllt, yr hyn rydyn ni’n mynd i fod yn ei wneud yw canolbwyntio ar fynd am dro.

“Rydyn ni’n cynllunio’r daith ac yna’n mynd am dro.

“Rydyn ni’n dechrau gyda gweld sut mae pawb, sut mae pawb yn gorfforol fel y gallwn ni fynd y diwrnod hwnnw.

“Mae pawb wedi bod yn heini ac yn barod iawn ar ei gyfer yn ystod y ddwy sesiwn ddiwethaf; dydy cerdded heb fod yn broblem.

“Mae gennym ni raglen gerdded arall lle mae gan bobol anghenion symudedd, ac rydyn ni wedi teilwra hynny i weithio iddyn nhw.

“Rydym yn ceisio creu partneriaeth â sefydliadau cadwraeth natur i ddangos i bobol wahanol ffyrdd y gallan nhw ymwneud â bywyd gwyllt yn eu hardal.

“Mae fy nghefndir mewn hyfforddi ymgorfforiad, felly buom yn edrych ar wahanol ffyrdd y gellir rheoleiddio’r system nerfol o ran natur a’r cysylltiad â natur.

“Gwnaethom ychydig o ymarferion ymgorfforiadau; roedd yn golygu bihafio fel carw, oedd yn hwyl ac roeddem yn chwarae.

“Ymarferiad arall wnaethom mewn glaswelltir amrywiol iawn oedd cael cymaint o fathau o ddail â phosibl, yna fe ddaethon ni â nhw i gyd gyda’i gilydd a siarad am sut roedd yr hen ffermwyr yn cael eu meddyginiaeth o blanhigion; mewn gwirionedd, rydyn ni’n dal i wneud, ond nawr maen nhw mewn Calpol, ond maen nhw’n dod o blanhigion yn wreiddiol.

“Fe wnaethon ni ddod â’r holl ddail gwahanol gyda’i gilydd a’u hadnabod, ac yna siarad am eu gwahanol ddefnyddiau meddyginiaethol.

“Ddydd Llun, fe wnaethom adnabod coed.

“Rydyn ni’n mynd i safle arall yr Ymddiriedolaeth Natur; bydd binoculars yn cael eu prynu, a byddwn yn edrych ar wahanol rywogaethau.

“Yna rydym yn gwneud rhai gweithgareddau sy’n ymwneud â sut rydyn ni fel bodau dynol yn anifeiliaid.

“Mae o i gyd am fynd allan am dro mewn gwirionedd.”

  • Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lauren Wood: 07458130616, laurenwood@smaillwoods.org.uk