Mae cynghorwyr benywaidd yn Arfon yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy rannu ystadegau sy’n dangos “symudiad pendant i’r cyfeiriad cywir”.

Cynyddodd canran cynghorwyr Grŵp Plaid Cymru sy’n ferched gan 16% y llynedd.

Gwelodd y ganran yn Arfon gynnydd tebyg o 14%.

O ran ymgeiswyr Plaid Cymru ar draws y sir, fe gynyddodd y ganran honno gan 17%, ac yn Arfon cododd cyfran yr ymgeiswyr sy’n ferched gan21%.

Mae ffigwr Gwynedd fwy neu lai’n gyfartal â’r ffigwr cyfartalog cenedlaethol o 35% o gynghorwyr sy’n ferched, sy’n cynrychioli cynnydd yng Ngwynedd o 12% ers 2017.

Elin Walker-Jones

Mae Elin Walker-Jones, cadeirydd Plaid Cymru yn Arfon a chynghorydd sir ward Glyder ym Mangor, yn canmol yr ystadegau.

“Mae ystadegau calonogol wedi dod i’r amlwg, a pha well ffordd o ddathlu nag ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod?” meddai.

“Mae’r ffigyrau, sy’n seiliedig ar Etholiadau Cyngor Gwynedd 2022, a gynhaliwyd lai na blwyddyn yn ôl, yn dangos symudiad pendant i’r cyfeiriad cywir o ran cydraddoldeb rhywedd yng Ngwynedd.”

Mae hi hefyd yn Aelod Cabinet dros Blant a Phobol Ifanc, ac mae’n gobeithio y gall fod yn ysbrydoliaeth i ferched ifanc yng Ngwynedd, ond yn credu bod angen datblygiadau.

“Mae bod yn fodel rôl cadarnhaol i fenywod yn hanfodol i genedlaethau’r dyfodol er mwyn sicrhau bod cyfartaledd rhyw yn norm,” meddai.

“Ond mae angen i sefydliadau newid hefyd er mwyn creu amodau sy’n annog, yn hytrach nag yn rhwystro cyfartaledd.”

Siân Gwenllian

Yn ôl Siân Gwenllian, sydd ei hun yn gyn-gynghorydd sir yn ogystal â bod y ferch gyntaf i gynrychioli etholaeth Arfon, mae cryn waith wedi bod tu ôl y cynnydd.

Mae hi’n credu bod angen cymeradwyo merched am newid pethau iddyn nhw eu hunain ac i ferched eraill.

Teimla fod Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn amser am newid.

“Nid drwy hap a damwain y digwyddodd y cynnydd sy’n amlwg yn yr ystadegau hyn.

“Cynhaliwyd ymgyrch bwrpasol yn lleol i ddenu mwy o ymgeiswyr sy’n ferched.

“Mae’n hanfodol bod Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn fwy na sbloets o sloganau diystyr.

“Wrth ddathlu’r ystadegau hyn, rydym yn gobeithio dangos bod gweithredu gydag ewyllys wleidyddol yn medru arwain at newid go iawn ar lawr gwlad.

“Hoffwn ddiolch i bob un ferch a fu’n ymgeisydd yn etholiadau’r llynedd.

“Oni bai bod lleisiau merched yn amlwg ar bob lefel o lywodraeth, yna ni fydd ein blaenoriaethau yn cael sylw.”

“Fonheddigion…. ac, o, Miss Gwenllian!”

Siân Gwenllian

“Mae pethau yn newid – ond yn rhy araf o beth coblyn!”