Mae cynghorwyr a staff yng Ngwynedd yn dweud nad oedden nhw’n teimlo’n ddiogel yn ystod ffrae am addysg rhyw wnaeth hollti barn.

Roedd y Cyngor yn trafod cyflwyno Addysg Perthnasau a Rhywioldeb pan wnaeth heclwyr darfu ar gyfarfod fis Awst y llynedd.

Cafodd rhybuddion eu rhoi wrth oedi’r drafodaeth, cafodd yr heddlu eu tynnu i mewn a’r oriel gyhoeddus ei gwagio.

Cafodd cynghorwyr eu cadw yn siambr Dafydd Orwig am “resymau diogelwch”.

‘Trefniadau ymarferol’

Ers hynny, mae Cyngor Gwynedd wedi addasu eu “trefniadau ymarferol” mwy cadarn ar gyfer siambr Caernarfon, yn dilyn yr ymyrraeth yn ystod cyfarfod arbennig y Cyngor.

Cafodd y digwyddiad ei drafod yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ddydd Iau (Mawrth 16).

Yn ystod y cyfarfod, rhannodd cynghorwyr eu profiadau ar y cyd o gael eu “bygwth”.

Nodwyd bod y Cynghorydd Beca Brown yn destun ymgyrch wedi’i thargedu yn dilyn y cyfarfod ym mis Awst.

Dywedodd cynghorydd arall, Linda Ann Jones, wrth y cyfarfod ei bod hithau hefyd wedi ceisio cymorth gan yr heddlu yn sgil sylwadau gafodd eu gwneud ar-lein.

Ers etholiadau Mai 2022, mae materion yn ymwneud â diogelwch cynghorwyr yn dod “yn amlycach yng ngoleuni digwyddiadau cenedlaethol a chyngor, ac i gynghorwyr unigol”, yn ôl adroddiad gafodd ei drafod yn ystod y cyfarfod.

Gallai aflonyddu ar aelodau hefyd arwain at fwy o straen, meddai.

Mae mwy o hyfforddiant, cwnsela iechyd meddwl a chefnogaeth les ar gael i gynghorwyr, sy’n wynebu fwyfwy o “aflonyddu a straen”.

‘Llawer o anawsterau’

Dywedodd y Cynghorydd Linda Ann Jones wrth y cyfarfod iddi wynebu “llawer o anawsterau” yn dilyn y cyfarfod ym mis Awst.

“Dydw i ddim ar Facebook, ond anfonodd ffrindiau negeseuon ataf am y pethau oedd yn cael eu dweud,” meddai.

“Ro’n i’n teimlo dan fygythiad.

“Es i at yr heddlu, dechreuon nhw ei dracio fo, ond fe wnaeth o barhau.”

Dywedodd fod yr heddlu wedi mynd i gartre’r tramgwyddwyr, a’i bod hi “wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun”.

Cafodd y materion eu riportio i Iwan Evans, swyddog monitro’r Cyngor a phennaeth y gwasanaethau cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Owen iddo yntau “ddioddef anawsterau tebyg rai blynyddoedd yn ôl”, a bod y Cyngor Cymuned “wedi wynebu materion oedd yn troi pobol i ffwrdd rhag dod yn gynghorwyr”.

“Fydd pobol ddim yn mynd i gyfarfod, dydyn nhw ddim eisiau cael eu bygwth, mae’n dod yn bryder,” meddai.

“Rydych chi’n ei weld o ar y newyddion, y cyfryngau cymdeithasol, gall pobol ddefnyddio apiau yn eich herbyn chi.

“Ar y teledu ddoe, roedd merch yn bygwth dynion.

“Mae gennym ni bryderon fel cynghorwyr, gall ddigwydd i unrhyw un.

“Dydy o ddim jyst yn fater i Gyngor Gwynedd, ond i Gymru gyfan.”

Mwy o bobol yn troi at gynghorwyr

Wrth gyflwyno adroddiad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, gafodd ei dderbyn er gwybodaeth, disgrifiodd Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, sut mae “pwysau gwaith a straen costau byw” yn golygu bod mwy o bobol yn ceisio cymorth gan gynghorwyr.

“Roedd trais ac aflonyddu ddioddefodd rai aelodau wedi cynyddu eu straen”, ac mae cwrs Arweinyddiaeth Ddiogel wedi cael ei addasu.

Mae asesiadau risg “bellach yn cael eu cynnal ar gyfer pob cyfarfod aml-leoliad, gan gynnwys y siambr a lleoliadau o bell”.

Dywedodd Vera Jones, y rheolwr gwasanaethau democrataidd ac iaith, fod ymdrech yn cael ei gwneud i gyfleu pa gefnogaeth sydd ar gael i aelodau.

Cafodd asesiadau risg eu gwneud, gan gynnwys materion ar yr agenda.

Ers y cyfarfod ym mis Awst, mae mwy o “gydweithredu â’r adran iechyd a diogelwch”.

Dywedodd Catrin Love, pennaeth cynorthwol cefnogaeth gorfforaethol, fod camau diogelwch sydd wedi’u gwella’n cynnwys dyluniad y siambr ond fod “angen mwy o waith ar yr oriel gyhoeddus”.

Roedd mentrau diogelwch eraill yn cynnwys y defnydd o loceri i’r cyhoedd gael storio bagiau, posteri yn yr oriel gyhoeddus yn nodi’r rheolau, rhaff rhwng yr oriel a’r siambr, trefniadau i gynnal seibiant yn ystod ymyrraeth, briffio cadeiryddion, ac ystyriaethau ynghylch cyflogi cwmni diogelwch pe bai’r lefel risg yn cael ei hystyried yn uchel.

Galwodd y Cynghorydd Cai Larsen am fesurau cryfach yn erbyn cynghorwyr sy’n torri’r rheolau.

Disgrifiodd y Cynghorydd Stephen Churchman gyfarfod mis Awst fel un “brawychus iawn” ac “unigryw”.

“Rydyn ni wedi gweld ymosodiadau corfforol yn erbyn gwleidyddion, ac mae angen i ni gymryd y bygythiad i’n diogelwch o ddifri, a rhaid i ni ystyried y gallai ddigwydd eto.”

Galwodd am fwy na rhaff rhwng siambr y Cyngor a’r oriel gyhoeddus.