Elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i gael ei gwobrwyo ag achrediad fel Cyflogwr sy’n Ystyriol o’r Menopos, am eu hymrwymiad i ddarparu cymorth menopos i’w staff.
Mae’r achrediad, gafodd ei sefydlu gan Henpicked – Menopos yn y Gweithle, wedi’i roi i’r elusen am eu hadnoddau a’u cymorth, ac am rannu gwybodaeth mae Chwarae Teg yn ei darparu o fewn y sefydliad.
Mae’r elusen wedi cyflwyno nifer o fesurau gweithredol, gan gynnwys ‘caffis menopos ar-lein’ amser cinio misol i gynyddu ymwybyddiaeth ac i rannu gwybodaeth.
Hefyd, mae gan y Fewnrwyd ardal benodol ar gyfer newyddion, gwybodaeth a rhannu profiadau personol, yn ogystal â sianel Teams, lle mae staff yn cael eu hannog i roi awgrymiadau a gofyn cwestiynau.
Roedd yna hefyd staff wirfoddolodd i ymgymryd â hyfforddiant fel Hyrwyddwyr Menopos er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n profi symptomau menopos yn teimlo’n hyderus i’w trafod a’u bod nhw’n cael eu cefnogi’n llawn.
Yn ogystal â hyn, roedd hyfforddiant i reolwyr llinell i ddarparu’r arweiniad gorau i staff.
Roedd dogfen ‘Menopause: A Support Guide for Everyone’ hefyd, sy’n darparu adnodd gwybodaeth am y menopos gan gynnwys manylion am symptomau a sut i ofyn am gymorth ac addasiadau rhesymol yn y gweithle.
‘Ymroddiad a gwaith caled’
“Llongyfarchiadau enfawr i Chwarae Teg ar ddod yn Ystyriol o’r Menopos achrededig cyntaf Cymru,” meddai Deborah Garlick, Prif Weithredwr Henpicked – Menopause in the Workplace.
“Mae angen llawer o ymroddiad a gwaith caled i gyflawni y statws a gydnabyddir gan y diwydiant ac sydd wedi’i achredu’n annibynnol.
“Roedd ein Panel Annibynnol o’r farn bod cais Chwarae Teg yn rhagorol, ei fod yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl ac roedd sylwadau craff gan staff sydd yn amlwg wedi elwa o’r wybodaeth a’r gefnogaeth y mae’r sefydliad yn eu darparu.”
‘Creu gweithle teg i bob un o’n staff’
“Rwy’n hynod falch o’n cyflawniad a’r gwaith rydym wedi’i wneud i gyflawni ein nod o gael ein cydnabod yn achrededig fel Cyflogwr Ystyriol o’r Menopos,” meddai Cheryl Royall, Partner Datblygu Gyrfa sydd wedi arwain gwaith Chwarae Teg tuag at yr Achrediad Ystyriol o’r Menopos.
“Mae’r ffaith mai ni yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i wneud hynny yn gwneud y newyddion yn arbennig iawn.
“Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn ac rydw i wrth fy modd ei fod wedi arwain at ein cais yn rhagori ar y disgwyliadau ar gyfer yr achrediad.
“Mae hynny’n hynod ystyrlon ac wir yn adlewyrchu’r gwaith rydym yn ei wneud o fewn a’r tu allan i’r sefydliad.
“Mae normaleiddio’r drafodaeth am y menopos mewn gweithleoedd yn hanfodol a byddwn yn annog pob cyflogwr i wneud yr un peth.
“Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr, fel darparu gwyntyllau desg pan fo angen a chael gwared ar reolau gwisg diangen fel bod cydweithwyr yn gallu gwisgo pa ddillad bynnag sy’n gyfforddus iddynt.
“Mae cenhadaeth Chwarae Teg wedi’i gwreiddio mewn dathlu ac ymgyrchu dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng Nghymru.
“O’r herwydd, mae gweithio tuag at Achrediad Ystyriol o’r Menopos wedi ein cefnogi ymhellach fel sefydliad i barhau i greu gweithle teg i bob un o’n staff.”