Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n beirniadu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Cymru am golli allan ar bot arall o arian yn ymwneud â rheilffyrdd.

Bydd Rheilffordd Pwerdy’r Gogledd – prosiect fydd yn cysylltu Lerpwl, Manceinion, Hull, Caerefrog, Sheffield a Leeds – yn cael ei ddosbarthu fel prosiect ‘Cymru-a-Lloegr’.

Mae disgwyl i’r prosiect gostio £17.2bn ac yn ôl Fformiwla Barnett, dylai Cymru dderbyn cyfran o’r gwariant yn Lloegr.

Yn yr achos hwn, pe bai’r prosiect yn cael ei ddosbarthu fel prosiect ‘Lloegr yn unig’, byddai Cymru’n derbyn oddeutu £1bn i’w wario ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ond nid dyma’r tro cyntaf i Gymru golli allan, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan gyfeirio at HS2 gafodd ei ddosbarthu’n brosiect ‘Cymru-a-Lloegr’ er nad yw’r cledrau yng Nghymru.

Mae lle i gredu bod hyn wedi costio £5bn i Gymru mewn arian coll allai fod wedi cael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hyn er gwaetha’r ffaith fod yr Alban wedi cael sicrwydd o arian HS2 canlyniadol gwerth oddeutu £10bn.

‘Dydy’r Ceidwadwyr ddim yn poeni o gwbl am Gymru’

“Mae’r datblygiad diweddaraf yn dangos nad yw’r Ceidwadwyr yn poeni o gwbl am Gymru, a bod Aelodau Seneddol Ceidwadwyr Cymru’n methu â gwneud y gwaith a sefyll i fyny dros eu hetholwyr,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Dylai Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr Cymreig gywilyddio, dydy’r prosiect hwn yn amlwg ddim yn un ‘Cymru-a-Lloegr’, ac mae eu diffyg asgwrn cefn yn amddifadu Cymru o fuddsoddiad hanfodol fyddai nid yn unig yn gwella gwasanaethau i’r cyhoedd ond hefyd yn helpu i ddenu mwy o fusnesau i Gymru.

“Bydd unrhyw berson o Gymru – boed yn y gogledd, y canolbarth neu’r de, yn gallu dweud wrthych chi am gyflwr ofnadwy rheilffyrdd Cymru.

“Mae amddifadu Cymru o’r arian sydd ei angen i fynd i’r afael â’r problemau hyn yn amddifadu Cymru a’i phobol o’r cyfle a’r potensial am ragor o ddatblygiad.

“Yn drist iawn, mae hyn yn cyd-fynd â record hir y Blaid Geidwadol, o ystyried eu bod nhw hefyd wedi canslo trydaneiddio rheilffyrdd de Cymru, wedi canslo Morlyn Llanw Bae Abertawe, ac wedi amddifadu Cymru o £1bn o gyllid y byddai wedi’i dderbyn pe baen ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’n ymddangos, pe bai gan y Ceidwadwyr neges i Gymru, mai’r neges honno fyddai ‘Dydych chi ddim o bwys i ni”.