Mae un o weinidogion Israel, sydd â chyfrifoldeb am y Lan Orllewinol yn y llywodraeth, wedi wfftio pobol, hanes a diwylliant Palesteina.

Mae sylwadau Bezalel Smotrich, y Gweinidog Cyllid, wedi cael eu beirniadu ychydig wythnosau ar ôl iddo achosi helynt arall pan alwodd am “ddileu” tref Balesteinaidd.

Daeth ei sylwadau diweddaraf yn ystod ymweliad â Ffrainc, wrth iddo sefyll ar lwyfan o flaen baner Israel oedd wedi cael ei haddasu i gynnwys tiriogaethau’r Lan Orllewinol, Dwyrain Jerwsalem, Gaza a’r Iorddonen.

Mae Israel yn gwadu mai nhw oedd yn gyfrifol am osod y faner ar y llwyfan, ac mai “gwesteion” yn unig oedden nhw yn y digwyddiad.

“A oes yna hanes neu ddiwylliant Palesteinaidd? Does dim,” meddai Bezalel Smotrich o’r llwyfan.

“Does yna’r fath beth â phobol Balesteinaidd.”

Mae Mohammad Shtayyeh, Prif Weinidog Palesteina, wedi beirniadu’r sylwadau, gan gyhuddo Smotrich o annog trais.

Mewn datganiad arall gan weinyddiaeth dramor Palesteina, dywedodd llefarydd fod Israel yn “mabwysiadu amgylchfyd sy’n gyrru eithafiaeth Israelaidd a brawychiaeth yn erbyn ein pobol” wrth iddyn nhw wadu bodolaeth Palesteina a hawliau ei thrigolion.

Fe wnaeth Smotrich ei sylwadau fis ar ôl i ddau Iddew gael eu lladd gan saethwr Palesteinaidd yn nhref Huwara yn y Lan Orllewinol.

Yr ymateb oedd rhoi tai a cheir ar dân, gan ladd un person Palesteinaidd.

Dydy Smotrich ddim wedi ymddiheuro, gan fynnu iddo “siarad ar gam”.