Mae Aelod Seneddol o Gymru oedd yn flaenllaw yn yr ymdrechion i uchelgyhuddo Tony Blair tros Ryfel Irac yn dweud bod “rhaid inni beidio â chaniatáu i sefyllfa debyg fyth ddigwydd eto”.

Daw sylwadau Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, mewn datganiad i golwg360 ugain mlynedd union i’r diwrnod ers i Ryfel Irac ddechrau.

Ar Fawrth 20, 2003, fe wnaeth lluoedd yr Unol Daleithiau a’u cynghreiriaid, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, ymosod ar Irac er mwyn ceisio dod â chyfundrefn Saddam Hussein i ben.

Roedd yr Unol Daleithiau’n honni bod gan Irac arfau dinistr torfol a’u bod nhw’n bygwth heddwch rhyngwladol, ond fe wnaeth y rhan fwyaf o wledydd wrthod cefnogi camau milwrol.

Ond daeth adroddiadau annibynnol i’r casgliad nad oedd modd profi hynny, ac fe ddechreuodd yr ymgyrch i uchelgyhuddo Tony Blair, Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig ar y pryd, ar y sail ei fod e wedi camarwain San Steffan drwy honni i’r gwrthwyneb.

Cafodd 14 o filwyr o Gymru eu lladd yn y rhyfel, a 179 drwy’r Deyrnas Unedig, ac mae rhai o’r miloedd o filwyr wnaeth oroesi’n byw ag anafiadau corfforol a meddyliol difrifol hyd heddiw.

‘Celwydd’ a ’diystyru cyfraith ryngwladol’

Yn ôl Hywel Williams, roedd y penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac wedi’i wneud gan Tony Blair “ar sail celwydd a diystyru cyfraith ryngwladol”.

Fe wnaeth Llafur ymateb yn chwyrn i’r ymdrechion gan ugain o aelodau seneddol – gan gynnwys Aelodau Seneddol Plaid Cymru, yr SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol – i’w uchelgyhuddo.

Adam Price, Aelod Seneddol Plaid Cymru ar y pryd, oedd wedi cyflwyno’r cynnig yn galw ar bwyllgor seneddol i benderfynu a ddylai Tony Blair wynebu cyhuddiadau o gamymddwyn drwy ddinistrio “egwyddor sylfaenol democratiaeth seneddol”.

“Fe wnaeth Plaid Cymru wrthwynebu’r rhyfel o’r cychwyn cyntaf, a chael ein beirniadu’n hallt am ein safiad,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.

“Wnaethon ni ddim cwyno am y feirniadaeth a gawson ni ar y pryd, a dydw i ddim yn cwyno rŵan, gan na wnaethon ni dalu pris am ein safiad.

“Talwyd y pris hwnnw gan y cannoedd o filoedd o bobol a gollodd eu bywydau, gan y rhai a anafwyd yn gorfforol ac yn seicolegol, gan y merched a’r plant a laddwyd, gan y rhai sy’n dal i alaru, a gan y rhai a gollodd popeth yn y rhyfel.

“Canfu Ymchwiliad Chilcot nad oedd Tony Blair wedi bod yn onest gyda’r cyhoedd.

“Rhaid inni beidio byth â chaniatáu i sefyllfa debyg fyth ddigwydd eto.”