Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cadarnhau heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 21) y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad i lywio deddfwriaeth yn y dyfodol ar gyfer sefydlu un system dribiwnlysoedd unedig i Gymru.

Bydd Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf i gyflwyno’r diwygiadau.

Dywed Mick Antoniw y bydd gwasanaeth tribiwnlysoedd modern ac annibynnol i Gymru yn gonglfaen y system gyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Senedd gynnal dadl ar Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, sef adroddiad olaf Syr Wyn Williams yn Llywydd.

Gwella cysondeb a mynediad at gyfiawnder

Er mai yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae’r pwerau dros y system gyfiawnder yng Nghymru, i raddau helaeth, mae gan Gymru nifer o dribiwnlysoedd datganoledig, ac mae pob un yn gweithredu o dan ei ddeddfwriaeth ei hun.

Mae rhai o’r tribiwnlysoedd hynny, gan gynnwys y tribiwnlysoedd adolygu iechyd meddwl, tiroedd amaethyddol a’r Gymraeg, wedi’u grwpio yn ‘Dribiwnlysoedd Cymru’ o dan oruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Mae’r tribiwnlysoedd eraill, gan gynnwys paneli apelio derbyniadau a gwaharddiadau ysgolion, yn gweithredu y tu allan i’r grŵp hwnnw.

Bwriad y diwygio arfaethedig yw gwella cysondeb yn y system ynghyd â gwella mynediad pobol at gyfiawnder.

Argymhellodd corff annibynnol y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylai tribiwnlysoedd sy’n penderfynu ynghylch anghydfodau mewn cyfraith sifil ac mewn cyfraith weinyddol ddod o dan un system unedig.

Yn ogystal â hynny, gwnaeth Comisiwn y Gyfraith nifer o argymhellion yn nodi’r diwygiadau strwythurol sy’n ofynnol i foderneiddio’r system dribiwnlysoedd.

Y ddadl dros ddatganoli’r system gyfiawnder ymhellach “wedi hen ennill ei phlwyf”

“Bydd dod â’r tribiwnlysoedd hyn ynghyd – a sefydlu llys apeliadol yng Nghymru am y tro cyntaf – yn rhoi strwythur tribiwnlysoedd syml, modern a theg i’r genedl,” meddai Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru.

“Mae’n gam arall tuag at gynllunio system gyfiawnder gydlynus, hynod lwyddiannus i Gymru.

“Rydw i am fod yn gwbl glir mai annibyniaeth farnwrol yw’r egwyddor arweiniol wrth fynd ati i gefnogi sefydliadau barnwrol yng Nghymru.

“Wrth ddiwygio’r tribiwnlysoedd, bydd yr egwyddor honno yn parhau’n flaenllaw.

“Mae’r ddadl dros ddatganoli’r system gyfiawnder ymhellach wedi hen ennill ei phlwyf.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld cyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli i Gymru er mwyn inni allu cynnig system well ar gyfer dinasyddion, cymunedau a busnesau.

“Tan hynny, mae diwygio’r tribiwnlysoedd yn enghraifft wych o sut y gallwn ni ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael inni nawr i fynd ar drywydd dull system gyfan, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o weinyddu cyfiawnder.

Ychwanegodd: “Hoffwn ddiolch yn swyddogol i Syr Wyn Williams am ei gyfraniad sylweddol fel Llywydd.

“Mae wedi bod yn hynod ddylanwadol drwy ysgogi cynnydd a ffurfio system Tribiwnlysoedd Cymru ag iddi annibyniaeth farnwrol gadarn.

“Rydw i hefyd am groesawu Syr Gary Hickinbottom i’r rôl o’r mis nesaf ymlaen.

“Edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef wrth inni symud tuag at wasanaeth tribiwnlysoedd diwygiedig.”