Mae’r corff sy’n goruchwylio safonau iaith yn yr Eidal yn annog llysoedd y wlad i gadw at enwau gwrywaidd a benywaidd, yn hytrach na defnyddio symbolau niwtral mewn dogfennau swyddogol.

Cafodd yr Accademia della Crusca gais gan bwyllgor cyfle cyfartal y Corte di Cassazione, prif gorff apeliadau’r Eidal, i gynghori ar y mater.

Yn yr un modd â’r Gymraeg a ieithoedd Lladin eraill, mae enwau Eidalaidd naill ai’n wrywaidd neu’n fenywaidd, ond mae’r ffurfiau lluosog yn newid yn ôl cenedl enwau, er enghraifft mae’r gair ‘tutti’ (pawb) yn cymryd y ffurf luosog gwrywaidd ‘-i’ yn hytrach na’r ffurf luosog benywaidd ‘-e’.

Mae rhai yn ystyried hyn yn ffordd o godi’r gwrywaidd uwchlaw’r benywaidd, ac yn cefnogi cyflwyno symbol niwtral i ddynodi nad yw enw’n wrywaidd nac yn fenywaidd, e.e. fyddai’r geiriau ‘caro’ neu ‘cara’ ddim yn cael eu defnyddio fel ffordd o ddangos anwyldeb, ond yn hytrach car* ar gyfer yr enw unigol a lluosog.

Ond mae’r Accademia della Crusca wedi gwrthod y newidiadau hyn wrth ymateb i’r Cassazione, gan ddweud y byddai newid o’r fath yn artiffisial a dim ond grwpiau lleiafrifol fyddai’n gefnogol iddyn nhw.

“Nid iaith gyfreithiol yw’r lle priodol ar gyfer arbrofion arloesol lleiafrifol,” meddai’r Accademia, sy’n mynnu mai’r enw lluosog gwrywaidd yw’r “offeryn gorau” i gynrychioli “pob rhyw a chyfeiriadedd”, ond maen nhw hefyd yn cefnogi’r defnydd o ffurfiau lluosog benywaidd.