Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi penodi cadeirydd newydd.

Daeth y cyhoeddiad gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wrth iddi gadarnhau mai’r cyn-Aelod Cynulliad Jonathan Morgan oedd yr ymgeisydd gafodd ei ffafrio.

Bydd yn dechrau yn y rôl pedair blynedd ar Ebrill 1, yn unol â’r gwiriadau perthnasol sy’n cael eu cwblhau cyn ei benodiad.

Mae ganddo brofiad helaeth ym maes tai a gofal cymdeithasol, ac yntau’n aelod annibynnol o Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC) ers mis Ionawr y llynedd.

Yn gyn-Aelod o’r Cynulliad, fe gynrychiolodd Ganol De Cymru a Gogledd Caerdydd ac roedd hefyd yn gadeirydd ar y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol.

‘Defnyddio’i brofiad er lles y boblogaeth leol a’r staff’

“Rwy’n croesawu penodi Jonathan yn gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg,” meddai Eluned Morgan.

“Rwy’n sicr y bydd yn defnyddio’i brofiad er lles y boblogaeth leol a’r staff.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth inni barhau i wella gwasanaethau iechyd.

“Hoffwn i ddiolch hefyd i Emrys Elias am ei waith fel cadeirydd dros dro ers mis Hydref 2021.

“Mae wedi arwain a chefnogi’r sefydliad – yn ystod y cyfnod hwn cafodd y bwrdd iechyd eu gyfeirio i lawr yn llwyddiannus o fesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.”

‘Adeiladu cymunedau iachach gyda’n gilydd’

“Rwy’n falch iawn o gael ymgymryd â rôl cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad wrth inni geisio adeiladu cymunedau iachach gyda’n gilydd,” meddai Jonathan Morgan.

“Fel cadeirydd, fe fydda i’n chwarae rhan ganolog wrth i’r bwrdd iechyd ymgysylltu â chleifion, y cyhoedd, staff, a gwleidyddion i osod trywydd clir ar gyfer gwella ein gwasanaethau ac ymdrin â’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.

“Mae gen i gefndir mewn tai a gofal cymdeithasol ac mae’r partneriaethau yr ydyn ni’n eu ffurfio gyda rhai y tu allan i’r bwrdd iechyd yn bwysig.

“Un o’r blaenoriaethau fydd gweithio’n agosach gyda’n tri awdurdod lleol ac integreiddio’n gwasanaethau er mwyn gallu cynllunio a darparu gofal yn agosach i’r cartref yn well.

“Rwy’ hefyd am ddatblygu ein hagenda iechyd cyhoeddus gyda’n trydydd sector ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

“Rydyn ni’n ffodus yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o gael gweithlu hynod hyfforddedig, medrus a chydymdeimladol, sydd gyda’r gorau yn y byd yn fy marn i.

“Blaenoriaeth hollbwysig fydd sicrhau ein bod yn gweithio gyda nhw i addasu er mwyn gallu diwallu anghenion newidiol ein poblogaeth a helpu pobol i fyw bywydau iachach.

“Fy mwriad yw arwain bwrdd sy’n gwrando ac yn dysgu fel y gallwn gefnogi ein staff i ddarparu’r gofal y maen nhw’n dymuno’i roi.”