Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi manteisio ar araith mewn rali yng Nghaerdydd i lambastio Llywodraeth Geidwadol San Steffan am alluogi’r asgell dde eithafol.

Fe fe Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, yn siarad mewn digwyddiad yn y brifddinas i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil.

Dywedodd wrth dorf fawr o bobol fod y Ceidwadwyr yn creu’r amodau i grwpiau asgell dde eithafol ehangu a ffynnu mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig, gyda’u rhethreg beryglus ynghylch ffoaduriaid.

“Gyfeillion, rydyn ni’n byw mewn cyfnod peryglus iawn,” meddai.

“Mae’r dde eithafol yn mynd yn feiddgar a swnllyd.

“Maen nhw’n cam-ddefnyddio’r amodau i gyd-fynd â’u hagenda ffiaidd a chynhennus eu hunain.

“Yn eu byd nhw, mae’r bobol sydd ddim yn edrych fel nhw yn dod yn elyn.

“Maen nhw’n gwneud scapegoats allan o ffoaduriaid, o’r bregus, ac o’r bobol sydd ddim yn ffitio eu templed.

“Maen nhw’n gosod y bai am bethau fel ein heconomi fregus, costau byw cynyddol, a chymaint mwy, ar ffoaduriaid ac unrhyw un arall sydd ddim yn ffitio yn eu byd.

“Ond rydyn ni’n gwybod y gwir.

“Ni fyddai unrhyw ran o hyn yn bosib heb Lywodraeth Dorïaidd sydd wedi creu’r amodau i’r eithafwyr asgell dde hyn ffynnu.”

‘Gobaith’

Dywedodd y bydd Plaid Cymru’n “parhau i ymladd y mesur peryglus hwn gyda’u holl nerth”.

“Mae yna obaith, oherwydd digwyddiadau fel hyn, sy’n dangos bod digon o bobol dda yn dal i fod allan yna, mae yna ddynoliaeth o hyd ac mae yna dosturi ar ôl yn ein cymdeithas ni o hyd,” meddai.

“Mae gobaith oherwydd bydd yn rhaid i’r Torïaid ateb yn fuan am eu rhethreg ddeifiol a’u methiannau niferus yn y blwch pleidleisio.

“Ar ôl 13 mlynedd o lywodraeth Dorïaidd San Steffan, ni all y diwrnod hwnnw ddod yn ddigon buan.

“Ffrindiau… chi’n gwybod beth i’w wneud pan ddaw’r amser.”