Mae sefyllfa bresennol Heddlu Llundain “yn rheswm arall i bwyso am ddatganoli plismona” i Gymru, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i adroddiad damniol ganfod “hiliaeth, misogyny a homoffobia sefydliadol sefydliadol” o fewn yr heddlu yn Llundain, ac awgrymu y gallai arwain at hollti’r llu pe na bai’r sefyllfa’n gwella.

Mae’r adroddiad yn nodi bod menywod a phlant wedi cael eu hamddifadu gan y llu, a’i fod yn “frith o ddiwylliant clwb bechgyn”.

Daw i’r casgliad bod achosion o dreisio wedi cael eu cau am fod rhewgelloedd yn cynnwys tystiolaeth wedi torri, a bod beirf plismyn Sikh wedi cael eu torri.

Cafodd yr adolygiad ei gynnal yn sgil achos Sarah Everard, gafodd ei threisio a’i llofruddio gan y plismon Wayne Couzens yn 2021.

Cafodd plismon arall yn Llundain, David Carrick, ei arestio a’i gael yn euog o dreisio, troseddau rhyw ac arteithio menywod mewn achos ar wahân.

Dywed yr adroddiad 363 tudalen fod staff yr heddlu’n wynebu agweddau rhywiaethol bob dydd, fod yna staff hiliol yn gweithio i Heddlu Llundain a bod yna homoffobia “wedi’i wreiddio’n ddwfn” o fewn y llu.

‘Sefydliadol’

Mae Mark Rowley, Comisiynydd Heddlu Llundain, wedi derbyn casgliadau’r adroddiad a’r methiannau systemig, ond yn gwrthod defnyddio’r gair “sefydliadol”.

Cafodd Adolygiad Casey dystiolaeth gan blismyn ynghylch y ffordd y cawson nhw eu trin gan eu cydweithwyr, gyda chwynion yn cael eu “troi yn erbyn” swyddogion o leiafrifoedd ethnig.

Yn ôl y casgliadau, mae plismyn croenddu 81% yn fwy tebygol o wynebu achosion o gamymddwyn na’u cydweithwyr â chroen gwyn.

Un sydd wedi ymateb i’r adolygiad yw Doreen Lawrence, mam Stephen Lawrence gafodd ei lofruddio yn 1993, ac mae hi’n dweud nad yw’r casgliadau’n “syndod”.

Yn ôl Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae ymddiriedaeth yn yr heddlu “wedi’i niweidio’n fawr”, tra bod Sadiq Khan, Maer Llundain, yn dweud bod heddiw’n un o’r dyddiau duaf yn hanes Heddlu Llundain.

‘Mae’r Met yn sefydliad’

Mae Liz Saville Roberts wedi ymateb yn chwyrn i gasgliadau’r adolygiad.

“Canfuwyd bod Heddlu’r Met yn sefydliadol hiliol, misogynystaidd a homoffobig, ond eto mae Comisiynydd y Met Mark Rowley yn gwrthod y term ‘sefydliadol’, gan ddweud bod y defnydd ohono’n ‘wleidyddol’,” meddai.

“Mae’r Met yn sefydliad.

“Mae graddau gwarthus y methiant yn sefydliadol.

“Yr ateb yw i’r Met chwalu, gwella craffu a newid diwylliant.

“A Chymru? Rheswm arall eto fyth i bwyso am ddatganoli plismona.”

Cefnogi Comisiynydd Heddlu Llundain

Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod Mark Rowley yn “iawn” wrth wrthod y term “sefydliadol”.

“Dydy ymwrthod â’r term yma ddim yn tynnu oddi ar weithredoedd gwarthus rhai unigolion y mae’n rhaid iddyn nhw wynebu’r canlyniadau,” meddai.

“Rhaid gwneud mwy i ddadwreiddio swyddogion anaddas.”