Mae diffyg tryloywder Llywodraeth Lafur Cymru tros y penderfyniadau wnaethon nhw ynghylch Covid-19 yn “tanseilio hygrededd datganoli”, yn ôl Plaid Cymru.

Mae’r blaid wedi ysgrifennu at Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn galw am ddiweddariad brys o safbwynt ei lywodraeth erbyn hyn ynghylch sefydlu Pwyllgor Pwrpas Arbennig Covid-19.

Daw hyn bedwar mis ar ôl i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i sefydlu’r pwyllgor, a thair blynedd ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf, fydd yn cael ei nodi ar Ddiwrnod Cofio Cenedlaethol ddydd Iau (Mawrth 23).

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, a Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, wedi llofnodi’r llythyr sy’n nodi “anghysondeb clir” yn nulliau’r Llywodraeth wrth “fynnu eu hawl i ‘wneud pethau’n wahanol’ yn nhermau dewis polisïau yng Nghymru ar y naill law, tra’n honni bod ymchwiliad cyffredinol yn y Deyrnas Unedig i ganlyniadau’r dewisiadau hynny’n ddigonol ar y llaw arall.”

“Yn briodol iawn, fe ddefnyddiodd Llywodraeth Cymru’r lifrau datganoledig oedd wrth law i fabwysiadu ymateb wedi’i deilwra i’r pandemig,” meddai Adam Price.

“Roedd y dull mwy gofalus yn seiliedig ar dystiolaeth yma yng Nghymru’n wrthgyferbyniad llwyr ag anghysondebau cawliog Llywodraeth y Deyrnas Unedig rydyn ni’n gwybod fod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn partïon yn torri rheolau’r cyfnod clo na chadw pobol yn ddiogel.

“Ond mae mynnu’r hawl i ‘wneud pethau’n wahanol’ yma yng Nghymru’n wrthgyferbyniad llwyr ag ymwrthodiad presennol Llywodraeth Cymru i fod yn destun atebolrwydd agored a thryloyw.

“Fe wnaeth Llywodraeth yr Alban gydnabod hyn yn gynnar a gweithredu’n benderfynol i sefydlu ymchwiliad Albanaidd.

“O ystyried fod gallu datganoledig yr Alban tros iechyd, yn ei hanfod, union yr un fath â’n un ni, mae’r ymwrthodiad parhaus hwn gan Lywodraeth Cymru i ymrwymo ar unwaith i atebolrwydd go iawn yn achosi perygl o danseilio hygrededd datganoli.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Dw i wedi amlinellu nifer o weithiau y rhesymau pam dw i’n credu y byddai’n well ceisio’r atebion mae’r teuluoedd yma yng Nghymru’n briodol iawn yn dymuno’u cael, drwy ymchwiliad sy’n gallu edrych yn well ar y cysylltiadau rhwng y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yma yng Nghymru a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn llefydd eraill,” meddai Mark Drakeford ar lawr y Senedd.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n ddyddiau cynnar iawn ym mywyd yr ymchwiliad i ddod i gyfres o gasgliadau hanfodol yn ei gylch.

“Mae’r ymchwiliad yn ei gyfnod ffurfiannol, mae’r Barnwr Hallett yn parhau i glywed gan bobol sy’n credu y dylid dilyn ei gorchwyl hi mewn ffyrdd arbennig, ac mae hi wedi bod yn glir ei bod hi’n parhau i ystyried yr holl safbwyntiau sy’n cael eu cyflwyno iddi o ran sut y dylai ei hymchwiliad weithredu.”

Fe alwodd ar Aelodau o’r Senedd sydd â safbwyntiau amrywiol i’w cyflwyno nhw i’r ymchwiliad.