Mae Goruchaf Lys Sbaen wedi ategu eu penderfyniad i gyhuddo Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, o anufudd-dod a chamddefnyddio arian.
Dw hyn er bod yr erlynydd cyhoeddus yn awyddus i’w weld yn cael ei gyhuddo o annhrefn gyhoeddus trwy drais yn hytrach nag anufudd-dod.
Mae’r penderfyniad yn awgrymu y bydd yna warant i’w arestio yn Sbaen, ond dim gwariant rhyngwladol sy’n golygu na all gael ei estraddodi pe bai’n gadael y wlad.
Daw’r adolygiad o’r cyhuddiadau yn ei erbyn o ganlyniad i addasu’r cyhuddiadau fel rhan o gymeradwyo diwygio cod troseddol Sbaen dri mis yn ôl.
Fe fu Carles Puigdemont yn alltud yng Ngwlad Belg ers ymgyrch annibyniaeth aflwyddiannus 2017, ac mae’n dal i wynebu’r posibilrwydd o gael ei garcharu.
Gall camddefnyddio arian cyhoeddus arwain at rhwng chwe mis a phum mlynedd o garchar, ond y gosb ar gyfer anufudd-dod yw gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus.
Cyn diwygio’r cod, roedd yn wynebu cyhuddiadau o annog gwrthryfel ac o gamddefnyddio arian, a chyfnod o hyd at 13 mlynedd o garchar fel y cafodd ei ddirprwy arlywydd Oriol Junqueras.
Does dim modd defnyddio’r cyhuddiadau newydd i gosbi ymgyrchwyr annibyniaeth 2017, meddai barnwr yn y Goruchaf Lys ym mis Ionawr.
Mae’r barnwr wedi ategu ei benderfyniad hefyd yn achos dau weinidog arall gafwyd yn euog o’r un troseddau â Carles Puigdemont.
Dydy dwy arall, Clara Ponsatí a Marta Rovira, ddim bellach yn wynebu cyhuddiadau o annog gwrthryfel chwaith, ond fyddan nhw ddim chwaith yn cael eu cyhuddo o annhrefn gyhoeddus trwy drais, sy’n golygu y gallan nhw ddychwelyd i Gatalwnia heb ofni cael eu carcharu.
Mae Meritxell Serret ac Anna Gabriel eisoes wedi dychwelyd, sy’n golygu mai pum person yn unig sy’n dal yn alltud ar ôl y refferendwm yn 2017 gafodd ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.
Colli apêl imiwnedd
Serch hynny, mae Carles Puigdemont wedi colli yn ei ymgais i sicrhau imiwnedd gwleidyddol.
Fe geisiodd e ddadlau na fyddai modd i’r Goruchaf Lys ei orfodi i sefyll ei brawf gan ei fod bellach yn Aelod o Senedd Ewrop.
Mynnodd ei gyfreithiwr y byddai’n rhaid i farnwriaeth Sbaen geisio caniatâd ffurfiol gan Senedd Ewrop cyn cyflwyno’r warant i’w arestio.
Ond fe wrthododd y barnwr y dadleuon hyn, gan ddweud bod y cyhuddiadau yn erbyn Carles Puigdemont wedi’u cyflwyno ym mis Mawrth 2018, cyn iddo ddod yn Aelod o Senedd Ewrop ym mis Mehefin 2019.
Helynt ysbïo
Yn y cyfamser, mae’r arlywydd presennol Pere Aragonès, y gweinidog Meritxell Serret ac ymgeisydd ar gyfer rôl Maer Barcelona Ernest Maragall, wedi cyfarfod â phwyllgor yn Senedd Ewrop sy’n ymchwilio i’r feddalwedd ysbïo Pegasus.
Roedd y tri wedi cael eu targedu gan y feddalwedd ysbïo dadleuol.
Yn ôl Pere Aragonès, “mae rhai yn meddwl bod amddiffyn undod Sbaen yn bwysicach nag amddiffyn hawliau sylfaenol” ac mae’n rhaid gwybod beth ddigwyddodd.
Mae Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cenedlaethol Sbaen wedi cydnabod iddyn nhw ysbïo ar 18 o unigolion sy’n gysylltiedig â’r mudiad annibyniaeth, ond mae ymchwilwyr yn Efrog Newydd o’r farn fod y ffigwr dros 60.
Yn ôl Pere Aragonès, mae’r diffyg tryloywder ynghylch ysbïo’n “codi amheuon am safon democratiaeth Sbaen”.
Mae’n dweud bod yr awdurdodau wedi anwybyddu ei geisiadau am wybodaeth ynghylch y sefyllfa.
Dywedodd Meritxell Serret ei bod hi’n destun ysbïo ym Mrwsel pan oedd hi’n Aelod o Senedd Ewrop, ac mae hi’n galw am reoleiddio’r defnydd o feddalwedd ysbïo ar draws yr Undeb Ewropeaidd ac yn difaru na chafodd rhagor o bobol y cyfle i siarad â’r rhai sy’n cynnal yr ymchwiliad.
Yn ôl Plaid y Bobol, sydd o blaid cadw undod Sbaen, roedd yr ymdrechion i ysbïo’n “gyfiawn” yn sgil cynllwyn honedig Rwsia i ddanfon 10,000 o filwyr i amddiffyn annibyniaeth Catalwnia.
Mae arweinwyr y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth wedi beirniadu Llywodraeth Sbaen am gynnal “boicot” o bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd drwy beidio â mynd i gyfarfod, ond mae Llywodraeth Sbaen yn dweud nad oedden nhw wedi mynd o ganlyniad i’r bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn y prif weinidog Pedro Sánchez.