Mae cynlluniau i droi bwyty gafodd ei losgi mewn tân ar lan y môr yng Ngheinewydd yn llety gwyliau wedi cael eu gwrthod.

Fis Gorffennaf y llynedd, cafodd diffoddwyr tân eu galw i fwyty Copper Quay yng Ngheinewydd yn dilyn adroddiadau bod mwg sylweddol yn dod o’r adeilad.

Cafodd diffoddwyr eu galw o Geinewydd, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi i’r safle ar fore Gorffennaf 21.

Gwisgodd diffoddwyr tân offer anadlu, gan ddod o hyd i fynediad i’r adeilad oedd yn llawn mwg.

Roedd y diffoddwyr yng wybod nad oedd neb y tu mewn i’r adeilad ac o ganlyniad i weladwyedd difrifol wael, penderfynon nhw fynd ati i ddiffodd y tân o’r tu allan i’r adeilad er mwyn sicrhau diogelwch y criw.

Fe wnaeth y criwiau awyru’r adeilad a mynd i’r afael â’r tân drwy ffenestri gan ddefnyddio jetiau pibellau dŵr tan ei bod hi’n ddiogel i fynd i mewn.

Wrth i ragor o injanau gyrraedd, roedd modd darparu mwy o griwiau ac offer anadlu, a chafodd y tân ei reoli.

Parhaodd criwiau i fonitro’r safle cyn tynnu llechi rhydd oddi ar y to oedd wedi cael ei ddifrodi.

Ar ôl rhyw wyth awr, daethpwyd â’r digwyddiad i ben dros dro cyn i wiriadau diogelwch terfynol gael eu cynnal y noson honno.

Cau nifer o fusnesau

Arweiniodd y difrod o ganlyniad i’r tân at gau nifer o fusnesau bwyd a manwerthu, a hynny yng nghanol tymor gwyliau’r haf.

Cyn y tân, roedd adeilad y Watch House yn cael ei ddefnyddio at sawl pwrpas, gan gynnwys bwyty, siop anrhegion a siop sglodion y Lime Crab ar y llawr gwaelod.

Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, cafodd cais ei gyflwyno gan Mr a Mrs G Thomas i newid defnydd llawr cynta’r Old Watch House i fod yn llety gwyliau tymor byr.

Yr argymehlliad gan swyddogion cynllunio Ceredigion oedd gwrthod y cais, ar ôl iddyn nhw ddod i’r casgliad nad oedd y newid oedd yn cael ei gynnig yn briodol a’i fod yn gwrthdaro â pholisïau cynllunio.

Derbyniodd cynllunwyr y sir bum llythyr yn gwrthwynebu’r datblygiad, ac roedd y pryderon yn cynnwys colli defnydd A3 [bwyty] a chyfrannu at ddiffyg darpariaeth yr ardal ar gyfer pobol leol a thwristiaid, colli swyddi, ac effeithiau posib ar olygfeydd yn yr harbwr.

Adroddiad swyddogion

“Mae’r cais hwn yn ymwneud â datblygiad sy’n gysylltiedig â’r elfen o fwyty yn yr adeilad,” meddai adroddiad gan swyddogion.

“Dydy’r adeiladu heb ei restru; fodd bynnag, mae’r safle’n gorwedd o fewn Ardal Gadwraeth Ceinewydd.

“Mae’r adeilad yn gorwedd yn agos i ben pier cofrestredig Ceinewydd, mae wedi’i leoli ar ben South John Street, ac yn adeilad eiconig o fewn y dref.

“O ganlyniad i leoliad blaenllaw’r safle, byddai’r estyniadau arfaethedig ac addasiadau i wneud lle i’r newid defnydd yn erydu os nad yn dileu blaen siopau a chan fod yr eiddo yng nghrombil Ceinewydd, byddai’n arwain at newid cymeriad cyffredinol yr ardal.

“Felly dydy e ddim yn cyfateb i welliant sylweddol i’r amgylchedd fyddai’n gorbwyso colli unedau manwerthu.”

Cafodd y cais ei wrthod ddoe (dydd Llun, Mawrth 20).

‘Diolch enfawr’

Adeg y tân, postiodd y Lime Crab ar y cyfryngau cymdeithasol: “I chi sydd heb glywed, yn anffodus fe ddechreuodd tân yn yr adeilad fore heddiw. Yn bwysicaf oll, chafodd neb eu hanafu.

“Bydd y Lime Crab yn ailagor pan fo’n ddiogel i wneud hynny.

“Yn anffodus, does gennym ni ddim amserlen ar gyfer hyn eto, ond byddwn yn eich diweddaru chi wrth i bethau ddatblygu.

“Diolch enfawr i’n gwasanaethau brys (sy’n wirfoddolwyr lleol yn bennaf) am y gwaith hollol anhygoel wnaethon nhw i gadw’r adeilad yn ddiogel, ac yn bwysicaf oll y bobol o’i gwmpas yn ddiogel.

“Allwn ni ddim diolch digon i chi am eich holl waith caled.

“Ac eto, diolch enfawr arall i’n holl staff, pobol leol a busnesau sydd wedi cynnig eu cymorth a’u cefnogaeth, mae’n golygu cryn dipyn i ni i gyd.”