Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod cyhoeddiad Qatar Airways eu bod nhw am ddechrau hedfan o Birmingham unwaith eto yn cynnig “gobaith” i Gaerdydd.

Daeth teithiau o’r ddwy ddinas i ben ar ddechrau’r pandemig Covid-19.

Bydd teithiau’n ailddechrau o Birmingham ym mis Gorffennaf, ond does dim cadarnhad ynghylch sefyllfa Caerdydd ar hyn o bryd.

Mae’n ymddangos bod rhywfaint o ddryswch, ar ôl i Akbar Al Baker, Prif Weithredwr Qatar Airways, ddweud wrth Business Travel y gallai teithiau ddychwelyd i Gaerdydd eleni, ond mae Maes Awyr Caerdydd ar ddeall y gallai fod mor hwyr â 2024.

‘Siom a phryder mawr’

Yn ôl Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, roedd penderfyniad Qatar Airways i beidio ailddechrau teithiau o Gaerdydd yr un pryd â Birmingham yn destun “siom a phryder mawr”.

Ond mae hi’n dweud bod sylwadau prif weithredwr y cwmni’n cynnig “gobaith ar gyfer y dyfodol”.

“Mae’n rhaid i gael Qatar Airways yn ôl i Faes Awyr Caerdydd fod yn flaenoriaeth frys i Weinidog Trafnidiaeth Llafur, gyda’r cwmni awyr yn denu teithwyr a gobeithio mwy o gludwyr i’r maes awyr, gan ddiogelu ei ddyfodol,” meddai.

“Fe welodd hediadau o Gaerdydd ar awyrennau Qatar Airways chwarter y teithwyr yn teithio ar gyfer busnes, sy’n hanfodol er mwyn dod â llewyrch a thwf economaidd i Gymru – mae’r rhain yn flaenoriaethau na all Llywodraeth Cymru eu colli.”