Bydd Senedd Cymru’n trafod cynnig o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Iechyd Cymru ddydd Mercher (Mawrth 22).

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Eluned Morgan i ymddiswyddo yn sgil methiannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i fesurau arbennig.

Yn ogystal â’r sefyllfa yn y gogledd, mae’r blaid yn dweud bod ganddi record “ddamniol” dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda 45,000 o bobol yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae cyllideb y Gwasanaeth Iechyd hefyd wedi’i dorri mewn termau real ar gyfer 2023-24, ac mae’r amserau aros ar gyfer triniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd, mewn adrannau brys ac wrth aros am ambiwlans wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed yng Nghymru.

Maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru hefyd o wrthwynebu ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru a “chuddio tu ôl i ymchwiliad y Deyrnas Unedig”.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw wedi methu â chyflwyno canolfannau llawfeddygol i fynd i’r afael â’r rhestrau aros, ac o amddifadu pobol o driniaeth ddeintyddol.

Dywed y blaid fod modd gweld methiant Eluned Morgan yn sgil yr ystadegau canlynol:

  • Mae 24% o boblogaeth Cymru ar restr aros
  • Mae 45,386 o bobol yn aros am driniaeth ers dros ddwy flynedd
  • Mae un ym mhob pump o gleifion wedi aros dros flwyddyn am driniaeth
  • 22 wythnos oedd canolrif yr amser aros ar gyfer yr un mis yng Nghymru
  • Bu’n rhaid i 30% o gleifion aros pedair awr, yr amser targed, i weld aelod o staff mewn adrannau brys
  • Dydy’r targed yng Nghymru o weld 95% o bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty erioed wedi cael ei fwrw
  • Bu’n rhaid i 9,000 o gleifion aros dros 12 awr mewn ysbytai
  • Dim ond 49% o alwadau brys lle’r oedd bywyd yn y fantol gafodd eu hateb o fewn yr amser targed, sef wyth munud
  • Dydy’r targed o 65% o alwadau coch yn cael ymateb o fewn wyth munud ddim wedi’i fwrw ers Gorffennaf 2020
  • Cymerodd hi dros awr i ymateb i 47% o alwadau oren, gyda dim ond 33% yn cyrraedd o fewn 30 munud
  • Wyth munud ac 11 eiliad oedd yr amser cyfartalog i ymateb i alwadau coch

‘Haeddu atebion’

“Yn ystod y pandemig, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n ‘ffôl’ cynllunio i wasanaethau arferol ddychwelyd ar ôl Covid,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn drist iawn, mae’r Gweinidog Iechyd wedi parhau â’r dull hwn a thra bo rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi diddymu aros am ddwy flynedd am driniaeth, mae dros 45,000 o bobol yng Nghymru’n parhau i aros mewn poen am flynyddoedd.

“Maen nhw’n haeddu atebion o ran pam eu bod nhw wedi cael eu hamddifadu gan y Llywodraeth Lafur sydd i fod i’w gwasanaethu nhw.

“Ond nid dim ond y deilydd presennol yw hyn.

“Ers 25 mlynedd, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi bod yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ac mae’r problemau ynghylch recriwtio a chadw meddygon a nyrsys yn cwympo wrth draed ei rhagflaenwyr, gan gynnwys y Prif Weinidog.”

“Sgandal” Betsi Cadwaladr

Yn ôl Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ogledd Cymru, mae methiant honedig Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â sefyllfa Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn “sgandal”.

“Ond mae’r rhai sy’n gyfrifol yn dal wrth y llyw,” meddai.

“Mae cleifion a staff rheng flaen yng ngogledd Cymru wedi cael eu siomi gan Lafur am yn rhy hir.

“Mae cleifion wedi marw ac wedi cael niwed, mae staff wedi cael eu bwlio ac yn llosgi allan, ond mae’r rhai sy’n gyfrifol yn dal yn eu swyddi.

“Mae angen gwasanaeth iechyd arnom yng Nghymru lle mae pobol yn cael eu dwyn i gyfrif lle mae pethau’n mynd o’i le, ac mae hynny’n dechrau gyda’r Gweinidog Iechyd.

“Fe wnaeth y Gweinidog wrthod ymyrryd pan gafodd hi gais i wneud hynny y llynedd, ac mae gwasanaethau wedi dirywio ymhellach o ganlyniad.

“Mae hi bellach yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd o dan ei goruchwyliaeth hi.

“Digon yw digon; rhaid i’r Gweinidog Iechyd fynd.”

Bydd y cynnig yn cael ei drafod ddydd Mercher (Mawrth 22), ac yn dweud nad oes gan “y Senedd hyder yng Ngweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru”.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Byddwn yn ymateb i’r ddadl yfory,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.