Mae cyngres undebau llafur TUC Cymru wedi lansio adnoddau ynghylch aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Daw’r adnoddau, sydd wedi’u creu gan Gymorth i Ferched Cymru, wrth i fwy na 50% o fenywod ddioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac fe fydd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar fenywod i fynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r ffigwr yn codi i un ym mhob tair o fenywod rhwng 18 a 24 oed.

Cafodd yr adnoddau eu lansio yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

“Ddylai neb fynd i’r gwaith yn ofni y gallan nhw ddioddef aflonyddu rhywiol,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach diddiwedd o drais rhywiol a misogyny.

“Dydy hi ddim yn weithred lefel isel y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd.

“Rydyn ni eisiau creu amgylchfyd sy’n galluogi gweithwyr i ddod ymlaen a cheisio cefnogaeth, a chael eu credu a’u helpu pan fo angen.

“Mae gennym oll ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, ac allwn ni ddim sefyll ar y cyrion pan fydd yn digwydd.

“Mae’n hanfodol i ni i gyd gwestiynu ymddygiad sy’n gwneud i fenywod deimlo’n llai diogel yn y cartref, yn yr ysgol, yn gyhoeddus ac yn y gwaith.

“Mae TUC Cymru a’n hundebau llafur cysylltiedig yn arwain y ffordd o ran y gwaith hwn.

“Mae undeb, ein cynrychiolwyr a’n haelodau yn allweddol wrth ddwyn cyflogwyr i gyfrif a sicrhau bod penaethiaid yn gwneud popeth allan nhw i atal aflonyddu rhywiol.”

Mae’r adnoddau’n cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth i helpu gweithwyr i:

  • adnabod aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • dwyn cyflogwyr i gyfrif er mwyn atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • ymgyrchu dros ddull diffyg goddefgarwch trwy gymryd camau amrywiol

‘Helpu cyflogwyr a gweithwyr i sylweddoli’u dyletswydd’

“Ar adeg pan fo’n ymddangos bod epidemig o aflonyddu rhywiol yn ei holl ffurfiau, bydd yr adnoddau hyn yn helpu cynrychiolwyr undebau i gefnogi’r rheiny sy’n wynebu’r gamdriniaeth hon, a dod â throseddwyr i gyfiawnder,” meddai Joyce Watson, yr Aelod Llafur o’r Senedd sy’n noddi’r lansiad.

“Bydd yn helpu cyflogwyr a gweithwyr, ill dau, i sylweddoli’u dyletswydd.

“Mae cynrychiolwyr undebau’n allweddol wrth ddwyn gweithleoedd i gyfrif a sicrhau bod penaethiaid yn gwneud popeth allan nhw i atal aflonyddu rhywiol.”

Yn ôl Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, mae eu hymchwil wedi darganfod fod pedair ym mhob pump o fenywod yng Nghymru wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gweithle.

“I’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr hyn, fe ddigwyddodd yr aflonyddu ar fwy nag un achlysur gan fwy nag un person,” meddai.

“Mae hyn yn arwyddo o lefelau epidemig o fisogyny a rhywiaeth yn cael eu goddef yn y gweithle.

“Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymrwymo i ddull diffyg goddefgarwch a bod gan gyflogwyr yr adnoddau i ddarparu ymatebion gwybodus o drawma sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r gweithwyr hynny sy’n datgelu gwybodaeth iddyn nhw, ochr yn ochr â chyflwyno mecanweithiau cadarn ar gyfer atebolrwydd.”