Mae dwy ysgol yn Arfon yn cael ymweliadau gan gŵn er mwyn helpu plant i ddarllen.
Bob hyn a hyn, mae Jane Jones o Gaernarfon yn ymweld ag ysgolion Penisa’r-waun a Rhostryfan gyda’i chŵn, a’r disgyblion yn darllen iddyn nhw.
Fel rhan o gynllun Therapy Dogs Nationwide, mae perchnogion yn mynd â chŵn sydd wedi cael eu hasesu i ysgolion fel rhan o gynllun ‘Pawen a Darllen.’
Yn ôl tystiolaeth yr elusen, mae’r rhaglen yn codi safon darllen plant, helpu gyda hyder ac ymddygiad, ac yn gwella lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion.
Rhoddodd y cyfnod clo derfyn ar ymweliadau Jane Jones a’i dau gi, ond mae pethau wedi mynd nôl i’r arfer rŵan.
‘Codi hyder’
Mae Jane Jones neu “Anti Jane” fel mae hi’n cael ei adnabod gan y plant yn dweud bod y plant, hi a’r ddau shitzhu, Millie a Begw, yn mwynhau.
“Mae’r plant wrth eu boddau,” meddai Jane Jones wrth golwg360.
“Mae o’n codi hyder y plant. Dw i wrth fy modd hefyd, dw i’n cael pleser o weld y plant yn cael pleser.
“Ac mae’r cŵn hefyd yn cael pleser.
“Mae plant sy’n darllen i’r cŵn yn eu parchu nhw, maen nhw’n gwybod sut i fihafio efo cŵn.”
Y broses
Dim ond i’r cŵn mae’r plant yn darllen, yn hytrach na darllen i Jane na staff yr ysgol.
“Mae trefn arbennig i’r rhaglen ac mae gwobr arbennig i gael ar y diwedd,” eglura Jane.
“Mae’r cŵn yn eistedd ar gadair fach efo blanced ac maen nhw’n gwrnado ar y plant.
“Dydy cŵn ddim yn barnu, wedyn ar ôl iddyn nhw orffen darllen maen nhw’n cael sticer.”
‘Amser i fwynhau darllen’
Dywedodd llefarwyr o’r ddwy ysgol ei bod hi’n braf bod yn rhan o raglen Pawen a Darllen, a’u bod nhw’n gweld y manteision.
“Pwrpas y rhaglen yw rhoi cyfle i’r plant gynyddu eu mwynhad o ddarllen a chodi eu hunan hyder,” medden nhw wrth wneud sylw ar y cyd.
“Bydd y plant o dan oruchwyliaeth aelod o’r staff, a’r ci ar dennyn ac o dan reolaeth y gwirfoddolwr bob amser.
“Cŵn yw’r rhain sydd wedi cael eu hasesu ac mae ganddyn nhw anian arbennig, ac wedi bod yn ymweld ag ysbytai, hosbisau, cartrefi’r henoed a llawer lle arall cyn cael bod yn rhan o’r rhaglen Pawen a Darllen.
“Cryfder Pawen a Darllen yw rhoi amser i’r plant fwynhau darllen i’r ci, sy’n ymweld yn wythnosol gyda’u perchennog.
“Ar ôl gorffen darllen, caiff y plant bleser mawr wrth dderbyn sticer sydd yn dweud ‘Darllenais i Milli Heddiw’, ac wedyn cael rhoi trît i’r ci cyn golchi ei dwylo.
“Mae’r profiad yn rhoi pleser mawr i’r plant, staff, Anti Jane a’r ci. Mae hyn yn amlwg o’r croeso a’r parch mae Anti Jane yn ei dderbyn wrth ymweld yn wythnosol â Milli Enlli bob yn ail â Begw Bach.”