Roedd disgwyl i weithwyr llawn amser dalu 6.2 gwaith eu cyflog blynyddol, ar gyfartaledd, i brynu tŷ yng Nghymru’r llynedd, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif mai pris cyfartalog tŷ yn 2022 oedd £190,000, tra bo cyflogau cyfartalog gweithwyr llawn amser yn £30,600.
Gostyngiad bach fu rhwng 2021 a 2022, gyda gweithwyr yn gorfod gwario 6.5 gwaith eu cyflog blynyddol ar dŷ yn 2021.
Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae fforddiadwyedd tai yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol.
Yn 1997, roedd disgwyl i bobol wario tair gwaith eu cyflog blynyddol ar dŷ ond cododd y ffigwr hwnnw’n sylweddol i 6.6 gwaith eu cyflog yn 2007. Ers hynny, mae cost tŷ wedi bod rhwng 5.5 a 6.5 gwaith cyflog blynyddol gweithiwr llawn amser, gyda llai o newidiadau yng Nghymru nag yn Lloegr.
Bro Morgannwg a Sir Fynwy ydy’r ardaloedd yng Nghymru lle’r oedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng cyflogau a phrisiau tai cyfartalog yn 2022, gyda gwahaniaeth o 9.5 a 9.2.
Doedd Ceredigion ddim ymhell ar eu holau chwaith, gyda phrisiau tai 8.3 gwaith yn uwch na’r cyflog cyfartalog yn 2022.
Castell Nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd yr awdurdodau lleol â’r tai mwyaf fforddiadwy yn unol â chyflog.
Mae rhagor o ystadegau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos hefyd mai pris cyfartalog tŷ yng Nghymru ym mis Ionawr 2023 oedd £217,000, sy’n gynnydd o 5.8% o gymharu â’r adeg honno’r llynedd.
Fodd bynnag, dros y Deyrnas Unedig bu llai o gynnydd rhwng Ionawr 2022 a 2023 (6.3%) o gymharu â’r cynnydd rhwng Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2022 (9.3%).
“Fe wnaeth chwyddiant prisiau tai blynyddol, yn cael ei fesur gan brisiau terfynol gwerthiannau, arafu eto ym mis Ionawr, a hynny’n gyson dros bob cenedl a rhanbarth,” meddai Aimee North o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.