Mae dyn tân o Sir Fynwy wedi bod yn rasio yn erbyn y cloc, ac yn erbyn crocodeiliaid, i geisio achub pobol o ddinistr Seiclon Freddy ym Malawi.
Ynghyd â 26 arbenigwr arall o’r Deyrnas Unedig, mae Darren Cleaves wedi teithio gyda thîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y Deyrnas Unedig (UK-ISAR) i Affrica er mwyn rhoi cymorth dyngarol yno.
Mae tua 183,000 o bobol wedi colli’u cartrefi ar ôl i’r seiclon achosi llifogydd eithafol ym Malawi, Mozambique a Madagascar, ac mae dros 500 o bobol wedi cael eu lladd ers iddo daro ar Fawrth 12.
Dywedodd Darren Cleaves, sy’n 47 oed ac yn byw yn Nhrefynwy, mai’r unig beth y mae’n bosib ei weld am gilomedrau i bob cyfeiriad yw llifogydd.
“Rydyn ni’n wynebu ras yn erbyn amser i gyrraedd goroeswyr sydd wedi bod heb fwyd ers dros wythnos nawr,” meddai.
“Mae’r bobol rydyn ni’n eu hachub wedi llwyddo i gyrraedd tir uwch ond mae dŵr a dinistr o’u cwmpas yn bob man.
“Yn amlwg, mae’n beryg bod anifeiliaid yn y dŵr a dw i’n meddwl bod ein gweithwyr wedi gweld crocodeiliaid deunaw troedfedd o hyd yn y dŵr. Dydy hwnnw ddim yn berygl rydych chi’n dod ar ei draws yn aml yng Nghymru.
“Hyd at hanner dydd ddydd Mawrth (Mawrth 21), amser Prydain, roedden ni wedi achub 284 o bobol ac mae’r ffigwr hwnnw’n cynyddu diolch byth.”
‘Dinistr syfrdanol’
Fe wnaeth y 27 arbenigwr a chwe meddyg o Dîm Meddygaeth Frys y Deyrnas Unedig hedfan i’r wlad ddydd Sadwrn (Mawrth 18), ac maen nhw wedi’u lleoli mewn gwersyll i bobol sydd wedi colli’u cartrefi yn Bangula, yn ne Malawi.
Mae’r tîm wedi cael eu gyrru yno gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a dyma’r tro cyntaf i Darren Cleaves fod yn rhan o’r tîm UK-ISAR.
“Mae’r dinistr welwch chi o’r awyr yn syfrdanol,” meddai Darren Cleaves, sydd wedi bod yn ddyn tân ers 21 o flynyddoedd.
“Fedrith eich llygaid chi ddim coelio’r hyn maen nhw’n ei weld.
“Y prif beth ydy bod pobol heb fwyta, felly mae cael bwyd atyn nhw yn beth mawr.
“Does yna ddim llawer o amser i glywed straeon pobol, ond ddoe fe wnaethon ni achub 16 babi ac roedd yna ddynes feichiog hefyd, felly mae’n codi calon rhywun.
“Mae pobol yn y gwersyll adleoli’n falch o’n gweld ni ac yn ddiolchgar am gymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae pobol yn codi llaw arnom ni ac yn diolch, felly mae hynny’n deimlad braf.”
‘Rhan hanfodol’
Ychwanegodd Gweinidog y Deyrnas Unedig dros Ddatblygu ac Affrica, Andrew Mitchell, eu bod nhw wedi bod yn gweithio ers i’r seiclon daro i “gefnogi’r ymateb brys ym Malawi a darparu cymorth sy’n achub bywydau’r rhai sydd ei angen fwyaf”.
“Gan weithio ochr yn ochr â phobol Malawi, mae ein tîm chwilio ac achub a’r tîm meddygol yn chwarae rhan hanfodol er mwyn helpu i sicrhau bod y rhai sydd wedi colli’u cartrefi’n sgil y llifogydd yn derbyn y cymorth arbenigol sydd ei angen ac i atal achosion ehangach o colera.”