Mae cyhoeddi Geiriadur Cymraeg-Rwsieg yn benllanw ugain mlynedd o waith i ŵr o Fosgo sydd wedi dysgu Cymraeg.
Cafodd geiriadur Dmitri Hrapof, sy’n trosi o’r Gymraeg i’r Rwsieg ac o’r Rwsieg i’r Gymraeg, ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn.
Yn cynnwys tua 14,000 o eiriau Rwsieg a 8,200 o eiriau Cymraeg, y geiriadur hwn yw’r un cyflawn cyntaf rhwng y ddwy iaith.
Daeth Dmitri Hrapof i gysylltiad â’r Gymraeg drwy waith J. R. R. Tolkein, a’r ffaith mai’r Gymraeg sydd wedi dylanwadu ar iaith Elvish ddychmygol The Lord of the Rings, a thrwy chwedlau’r Brenin Arthur.
Dysgodd Gymraeg ar-lein, drwy gyrsiau Mark Nodine a’r BBC, cyn dilyn cwrs ym Mhrifysgol Mosgo, ac wedyn yn Nant Gwrtheyrn.
“Doedd dim geiriadur Cymraeg-Rwsieg ar y pryd, felly roedd rhaid i fi greu un,” meddai wrth golwg360.
“Fe gymerodd hi ugain mlynedd, ond mae’r gwaith yn parhau.
“Cerdd fach yw pob gair, ac mae un cyfieithiad yn tywys at gyfieithiadau eraill fel cadwyn,” meddai am y broses o greu’r geiriadur.
Cafodd y geiriadur ei lunio gan ddefnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru a Geiriadur yr Academi, geiriadur Saesneg-Rwsieg Müller a geiriadur Rwsieg-Saesneg Smirnitsky, a geiriaduron Almaeneg-Cymraeg a Ffrangeg-Cymraeg.
Mae gweld y geiriadur cylfawn yn deimlad “anhygoel”, ychwanega Dmitri Hrapof.
“Fel y dywedodd y bardd Rwsiaidd: ‘Dw i’n hapus a mud wrth ifi orffen, ac yn cenfigennu ychydig wrth bobol sy’n dim ond yn dechrau nawr’.”
‘Croesawu twf ieithyddol’
Gyda dros 258 miliwn o siaradwyr ledled y byd, Rwsieg yw’r iaith Slafaidd sy’n cael ei siarad amlaf. Rwsieg hefyd yw’r seithfed iaith fwyaf poblogaidd yn y byd yn ôl nifer y siaradwyr brodorol, a’r wythfed fwyaf yn y byd yn ôl cyfanswm yr holl siaradwyr.
Symudodd Lyuba Donskaya o Rostov-na-Donu yn ne Rwsia i ogledd Cymru yn bump oed, gan ddysgu Cymraeg mewn uned drochi.
Wedi cwblhau ei haddysg drwy Gymraeg, cyn mynd ymlaen i astudio gradd mewn Ffrangeg a Rwsieg, mae’r ieithydd 24 oed sydd bellach yn byw yn Nwygyfylchi ger Conwy yn gweld manteision cael geiriadur o’r fath.
“Dw i’n meddwl ei fod o’n gymysgedd annisgwyl o ieithoedd, ond dw i’n croesawu unrhyw fath o dwf diwylliannol ac ieithyddol,” meddai Lyuba Donskaya wrth golwg360.
“O bosib bod hyn yn hyd yn oed mwy cadarnhaol ac arwyddocaol rŵan gan fod yna lot o bobol o Wcráin yn dod draw i Gymru rŵan yn sgil y rhyfel, ac mae lot ohonyn nhw’n siarad Rwsieg felly o bosib y gwneith hyn helpu nhw i integreiddio a theimlo’n fwy cyfforddus ac fel eu bod nhw’n cael eu derbyn yma.
“Yn amlwg hefyd, mae o’n mynd i wneud i bobol Rwsieg neu bobol sy’n siarad Rwsieg – pobol o sawl un o’r gwledydd oedd yn arfer bod yn rhan o’r Undeb Sofietaidd sy’n siarad Rwsieg – deimlo fel eu bod nhw’n cael eu derbyn yma, ac efallai y bydd o’n gwneud gwahaniaeth er mwyn eu hannog nhw i ddysgu Cymraeg.”