Mae angen ychydig mwy o uchelgais polisi wrth geisio meithrin arweinwyr y dyfodol, meddai un sylwebydd gwleidyddol.
Bydd Theo Davies-Lewis yn rhoi araith yn y Senedd nos fory (Mawrth 23) fel rhan o wythnos gan Goleg yr Iesu, Rhydychen yn edrych ar Gymru Fodern.
Arweinyddiaeth yn y Gymru Fodern fydd ei bwnc, gan edrych ar y cyfnod ers datganoli.
Un o’r patrymau amlwg sydd wedi datblygu dros y chwarter canrif ddiwethaf ydy diffyg dylanwad y Cymry yng nghylchoedd uchaf y Deyrnas Unedig dros y genhedlaeth ddiwethaf.
Wedi datganoli, yn naturiol, fyddech chi wedi disgwyl gweld gwleidyddion yn symud i Fae Caerdydd a’r Senedd, meddai Theo Davies-Lewis, ond ers hynny does dim Cymry wedi bod ar frig pleidiau gwleidyddol San Steffan fel bu yn y gorffennol.
“Yn y 1980au roedd gennym ni Geoffrey Howe a Michael Haseltine ar yr ochr Geidwadol ac wedyn Neil Kinnock a Callaghan ar yr ochr Llafur – ffigurau Cymreig ar dop pleidiau gwleidyddol Prydeinig,” meddai’r sylwebydd a’r colofnydd wrth golwg360.
“Sa i’n credu ein bod ni’n gweld hynny rhagor. Mae’r Albanwyr dal gyda’r dylanwad yna yn San Steffan, dw i’n credu, a dw i’n credu bod e’n ddatblygiad rydyn ni’n gallu edrych yn ôl at gyfnod Llafur Newydd – le’r oedd yr Albanwyr, yn enwedig dan Gordon Brown a Tony Blair, yn dominyddu yn y pleidiau.
“Efallai bod ffatri wleidyddol well gyda’r Alban yn y cyfnod yna, tra bod ffigurau gwleidyddol Cymreig, fel Rhodri Morgan fel esiampl, yn troi’n ôl at Gaerdydd – dim peth gwael yw hwnna wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gael yr arweinwyr yn y Senedd.
“Ond yn y cyd-destun gwleidyddol, rydyn ni dal yn rhan o’r Deyrnas Unedig a’r sialens dw i’n gweld ydy ein bod ni wedi troi i ffwrdd o San Steffan a dydyn ni ddim wedi cael arweiniad ar dop y pleidiau yna.
“Ar yr un pryd, efallai nad ydyn ni wedi gweld yr arweinwyr yn datblygu yng Nghaerdydd.”
Wrth i’r Cymry symud i ffwrdd o San Steffan, mae dylanwad y wlad yno wedi lleihau dros y degawdau, ychwanega Theo-Davies Lewis.
Llenwi swyddi
Heb y dalent yn y blaid, mae hi’n anodd iawn llenwi safleoedd gwleidyddol gyda phobol dalentog hefyd, meddai.
“Dw i’n credu bod hwnna wedi gwanhau, ac mai’r dystiolaeth fwyaf ydy sut mae’r Swyddfa Gymreig wedi gweithredu dros y blynyddoedd diwethaf, le maen nhw wedi stryglan. Yn enwedig mewn cylchoedd Ceidwadol, does dim digon o dalent Ceidwadwyr Cymreig yn datblygu.
“Be sy’n ddiddorol i fi, yn canolbwyntio ar San Steffan, mewn cyd-destun gwleidyddol, mae Llafur Cymru wedi adeiladu plaid gwbl wahanol, newydd i bob pwrpas dros y chwarter canrif ddiwethaf sef Llafur Cymru dim Llafur Prydain.
“Ond y pwynt yw, pan fydd Keir Starmer efallai’n ennill yr etholiad nesaf, pwy fydd e’n ddewis ymhlith yr aelodau Llafur yng Nghymru? Ife nhw yw’r bobol gorau, yntau yw pobol gorau’r blaid Lafur Gymreig wedi symud i Gaerdydd?”
Brand newydd o arweinyddiaeth
Yn ei araith, bydd Theo Davies-Lewis hefyd yn asesu natur arweinyddiaeth Cymru ers datganoli, ac yn edrych ar sut mae’r brand newydd, sydd wedi datblygu ers y pandemig, yn apelio at hunaniaeth y Cymry.
“Yn hanesyddol, mae gyda’r Cymry ddiddordeb mewn arweinwyr, ac yn ystod y pandemig gyda’r proffil newydd, yn enwedig drwy’r Prif Weinidog, rydych chi’n gweld ryw fath o frand arweinyddiaeth yn datblygu.
“Yn y cyd-destun gwleidyddol, dw i’n meddwl bod arweinyddiaeth sy’n effeithiol gyda chynulleidfa eithaf sylfaenol yng Nghymru’n un sy’n pwysleisio hunaniaeth, yn enwedig yr iaith Gymraeg.
“Mae Mark Drakeford yn cynrychioli’r brand yna, ond mae yna sefydliadau hefyd yn ei gynrychioli – y Gymdeithas Bêl-droed, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn llywodraethu’n dda, yn ymestyn mas i gymdeithasau’n dda, ac nid yn unig ar lwyfan cenedlaethol ond llwyfan rhyngwladol.
“I fi, dydyn nhw ddim wedi gwneud hwnna achos bod y tîm yn gallu chwarae pêl-droed yn eithaf da, maen nhw’n gwneud e achos eu bod nhw’n gyfforddus iawn am eu hunaniaeth nhw a be maen nhw’n gynrychioli.
“Dw i’n meddwl bod hynna’n trosglwyddo i wleidyddion hefyd, sy’n effeithiol. Os ydych chi’n sefydliad neu wleidydd, os ydych chi’n deall eich cynulleidfa rydych chi’n gallu apelio atyn nhw ac ymestyn tu fas i’r gynulleidfa yna.
“Mae’r brand Cymraeg a Chymreig yn eithaf pwerus, ac os ydych chi’n defnyddio’r brand yna yn y ffordd gywir, fel dw i’n credu bod Llafur Cymru wedi’i wneud a’r Gymdeithas Bêl-droed, rydych chi’n gallu bod yn effeithiol iawn i gyrraedd eich pwrpas – i ennill etholiadau, neu i ennill calonnau’r cyhoedd.”
Arweinwyr y dyfodol?
Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae gan Theo Davies-Lewis bryderon am y ffordd mae pobol ifanc a’r “dalent orau” yn gadael y wlad.
“Dw i’n gweld arweinyddiaeth, y pwnc yma, fel mater polisi. Y brain drain ydy’r esiampl gorau ac mae e’n clymu mewn i’r creisis ail dai, swyddi yng nghefn gwlad Cymru, y berthynas rhwng y dinasoedd a Chymru’n ehangach.
“Dw i yn becso am le mae arweinwyr dyfodol y wlad yn mynd, ydyn nhw’n dod nôl i Gymru? Ydyn nhw’n aros yng Nghymru? Mae’n rhaid iddyn nhw gael profiadau gwahanol wrth gwrs ar draws y byd, rydyn ni yn Gymru ryngwladol.
“Un peth sydd wedi digwydd sy’n gallu newid pethau ydy cael Senedd Ieuenctid i Gymru.
“Mae rhywbeth fel yna’n dangos bod Llywodraeth Cymru a phleidiau eraill o ddifrif am i bobol ifanc gael profiadau ac addysg wleidyddol.
“Sut ydyn ni’n datrys y sialens ynglŷn â datblygu arweinwyr y dyfodol? Dyma fenter [y Senedd Ieuenctid] le rydych chi’n mynd ar draws Cymru gyfan yn ffeindio arweinwyr y dyfodol.
“Dw i’n credu bod rhaid i ni ddenu pobol mewn a denu pobol yn ôl i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyrraedd y bobol gorau, ac ein bod ni’n cadw’r bobol hynny yng Nghymru os ydyn nhw moyn llwyddo – tipyn bach mwy o uchelgais polisi ydy beth rydyn ni’n chwilio amdano fo.”