Wedi i Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, oroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd neithiwr (Mawrth 22), dywed y Ceidwadwyr Cymreig mai hyder y cyhoedd ynddi sy’n bwysig.
Roedd y blaid, ynghyd â Phlaid Cymru, yn galw arni i ymddiswyddo yn sgil methiannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i fesurau arbennig.
Fe wnaeth 26 bleidleisio o blaid y cynnig o ddiffyg hyder ynddi, tra bod 29 wedi pleidleisio yn ei erbyn.
Yn ogystal â’r sefyllfa yn y gogledd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ganddi record “ddamniol” dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda 45,000 o bobol yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Dywedodd Eluned Morgan wrth y Senedd ddoe y bu’n cwestiynu a fedrith hi wneud “swydd ddiddiolch” y Gweinidog Iechyd.
“Ond bob dydd dwi’n sylweddoli bod gen i rywbeth i’w gynnig, sef fy mod yn gofalu.
“Rwyf am ddarparu’r gwasanaeth iechyd a gofal gorau posibl i bobl Cymru.
“‘Dw i eisiau i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru lwyddo.”
‘Sefyllfa annerbyniol’
Ar ôl y bleidlais, dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Ogledd Cymru: “Efallai bod gan ei chyd-Aelodau Llafur yn y Senedd hyder yn Eluned Morgan, ond hyder pobol Cymru sy’n cyfrif.
“Rhaid mynd i’r afael â’r bwlch mewn atebolrwydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a byddan ni’n parhau i herio’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r gwelliannau mae cleifion a staff yn eu haeddu.
“Mae’r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru yn annerbyniol ac mae penderfyniadau gwael y Gweinidog wedi rhoi cleifion mewn perygl.
“Roedd yn dweud rhywbeth na wnaeth unrhyw Aelod o’r Senedd Llafur o Ogledd Cymru sefyll ar eu traed [yn y ddadl] i amddiffyn ei record.”
‘Gwasanaeth wedi torri’
Yn y cyfamser, fe wnaeth cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddweud ddoe bod cleifion mewn perygl o gael gwasanaeth “y gellir dadlau sydd wedi torri”.
Mark Polin oedd cadeirydd y bwrdd nes iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo, ac mae e wedi cyhuddo Eluned Morgan o beidio â chymryd unrhyw gyfrifoldeb i wella iechyd.
Honnodd hefyd yn ei lythyr yn y Daily Post bod pryderon y bwrdd wedi cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth, gan alw am ymchwiliad cyhoeddus.
Dywedodd y cyn-gadeirydd fod Eluned Morgan “wedi cymryd rhan yn yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel ymarfer i geisio ymbellhau ei hun, ei llywodraeth a’i swyddogion oddi wrth unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw beth sy’n ymddangos yn ymwneud â gwella gofal iechyd ar draws Cymru”.
Yn ogystal, dywedodd bod cyfres o ddiffygion a phryderon hirsefydlog wedi’u huwchgyfeirio ar ddechrau mis Medi “nid yn unig i’r prif swyddog gweithredol ar y pryd ond hefyd i’r gweinidog a’r cyfarwyddwr cyffredinol”.
“Yn syml, anwybyddwyd yr uwchgyfeirio hwnnw a’r sail ar eu cyfer gan y llywodraeth,” meddai.
Dywedodd Mark Polin ei fod yn “gamarweiniol” i’r gweinidog awgrymu ei bod yn ddi-rym i weithredu yn erbyn aelodau eraill o’r bwrdd.
‘Haeddu gwell’
Wrth ymateb i’r llythyr gan Mark Polin, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, bod ei sylwadau yn ychwanegu at eu galwadau y dylid diswyddo Eluned Morgan.
“Mae’n codi cwestiynau difrifol am hygrededd y Gweinidog a’r ffordd mae hi wedi rheoli gofal iechyd yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae ein gwasanaeth iechyd wedi torri – ond mae Llywodraeth Cymru’n gwadu bod argyfwng.
“Rydyn ni wedi galw am ymchwiliad llawn i’r ffordd mae Betsi Cadwaladr wedi cael ei chamreoli – mae’r Llywodraeth Cymru wedi’n gwrthod.
“Mae’r dirywiad wedi digwydd dan lygaid y Gweinidog Iechyd a Llafur, ac mae pobol gogledd Cymru wedi blino â’r gamreolaeth gyson.
“Mae cleifion, staff a phobol gogledd Cymru’n haeddu gwell.”