Mae cangen Saesneg Croeso Cymru, Visit Wales, wedi cael eu beirniadu am ddefnyddio enw Saesneg ar ynys ger Harlech yn hytrach na’r enw brodorol.

Ar eu gwefan, mae Visit Wales yn defnyddio’r enw ‘Shell Island’, sef yr enw Saesneg ar Ynys Fochras ger Llanbedr, Gwynedd.

Mewn gwrthwynebiad, dywedodd un defnyddiwr ar Twitter bod hynny’n “warthus”, a gofynnodd pa siawns sydd i ddiogelu enwau a’r diwylliant brodorol pa fo cyrff yn “hyrwyddo enwau ffug fel enwau swyddogol?”

Fodd bynnag, mae’r ‘Shell Island’ yn yr achos hwn yn cyfeirio at fusnes gwersylla ym Mochras, meddai llefarydd ar ran Croeso Cymru, gan ychwanegu bod y wybodaeth wedi cael ei ddarparu gan y busnes.

Yng nghorff yr erthygl, mae’r enw ‘Shell Island’ yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at yr ynys ei hun hefyd.

Wrth ychwanegu at y sylw ar Trydar, dywedodd y digrifwr a’r cyflwynydd Tudur Owen ei fod wedi bod yn ffilmio ym Mochras yn ddiweddar ar gyfer cyfres Cynefin a’u bod nhw wedi bod yn trafod am hanes yr enw.

“Rhaid i’n cyrff cyhoeddus arwain y ffordd neu pa obaith?”

“Mae enwau Cymreig yn diflannu o flaen ein llygaid,” meddai defnyddiwr arall.

‘Gwerthfawrogi’r pwysigrwydd’

Wrth ymateb i’r feirniadaeth, dywedodd llefarydd ar ran Croeso Cymru, sef corff twristiaeth Llywodraeth Cymru, eu bod nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio enwau Cymraeg.

“Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio ein henwau llefydd Cymraeg – a’r straeon, yr hanes a’r diwylliant sy’n rhan o’r enwau yma, ac fe fyddwn yn gweithio i wella ar gynrychiolaeth enwau lleoedd Cymraeg ar y wefan ac yn ein gwaith marchnata.

“Yn yr achos hwn, mae’r cynnwys penodol yma yn cyfeirio at enw busnes maes gwersylla ym Mochras ac fe ddarparwyd y wybodaeth gan y busnes.”