Bydd statws Porthladd Rhydd yn “sbardun” i geisio sicrhau “dyfodol gwell” i bobol Ynys Môn a gogledd Cymru, yn ôl Plaid Cymru.

Mae’r blaid wedi croesawu’r newyddion ddoe (dydd Mercher, Mawrth 22) fod dau borthladd rhydd newydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru gydag addewid o fuddsoddiad a swyddi.

Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Porthladd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn sydd wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd cyntaf Cymru

Bydd y safleoedd yn derbyn hyd at £26m yr un gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl iddyn nhw ddenu hyd at £5m o fuddsoddiad a chreu tua 20,000 o swyddi erbyn 2030.

Y ceisiadau llwyddiannus

Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot

Bydd y porthladd rhydd newydd hwn yn cael ei leoli ym mhorthladd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau yn Sir Benfro.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y porthladd rhydd yn seiliedig ar dechnolegau carbon isel fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, hydrogen, dal, defnyddio a storio carbon a biodanwyddau i gefnogi ymdrechion i leihau allyriadau carbon.

Mae’r porthladdoedd yn gobeithio denu mewnfuddsoddiad sylweddol, gan gynnwys £3.5m yn y diwydiant hydrogen, yn ogystal â chreu 16,000 o swyddi, gan sbarduno £900m o Werth Ychwanegol Gros (GYG) erbyn 2030, ac £13bn erbyn 2050.

Porthladd Rhydd Ynys Môn

Bydd y porthladd rhydd wedi’i leoli o gwmpas porthladd Caergybi, Parth Ffyniant Ynys Môn, Rhos-goch ac M-Sparc.

Bydd y porthladd rhydd yn hybu Rhaglen Ynys Ynni Môn trwy ganolbwyntio ar brofion technoleg ynni ar wely’r môr (llanw a gwynt).

Yr amcan yw creu rhwng 3,500 ac 13,000 o swyddi erbyn 2030, a chreu GYG o ryw £500m.

Mae’r Llywodraeth yn rhagweld llawer o fewnfuddsoddiad hefyd, gan gynnwys £1.4bn posibl yn y sector ynni gwyrdd.

‘Potensial economaidd anferth’

Croesawodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi, y newyddion: “Rydym yn hynod o falch fod y gefnogaeth i Borthladd Rhydd a’r potensial anhygoel sy’n dod yn sgil hynny i greu swyddi wedi dod i Ynys Môn,”

“Bydd statws Porthladd Rhydd yn sbardun i geisio sicrhau dyfodol gwell i bobl Ynys Môn a gogledd Cymru,” ychwanegodd Llinos, sydd hefyd yn dal Portffolio Datblygu’r Economi.

“Mae gormod o’n pobl ifanc wedi gorfod gadael yr ynys er mwyn chwilio am waith a sicrwydd ariannol.

“Rydyn ni eisiau newid hynny ac fe all Porthladd Rhydd fod yn gymorth mawr i ni wireddu hynny.

Cafodd y cais llwyddiannus ei ddatblygu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a chwmni Stena Line, perchnogion Porthladd Caergybi ac roedd Llinos Medi yn awyddus iawn i ddiolch am eu gwaith.

“Mae’r cyhoeddiad yn benllanw gwaith caled iawn gan ein staff a’n partneriaid.

“Hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw ac i bobl Ynys Môn a gogledd Cymru am gefnogi ein cais.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda Stena Line a phartneriaid allweddol eraill er mwyn paratoi achos busnes cynhwysfawr a chadarn i’w gyflwyno yn ddiweddarach eleni.

“Bydd hyn yn cefnogi ein nôd o greu cymunedau iach, llewyrchus sy’n ffynnu wrth gadw’r iaith Gymraeg yn fyw ar yr ynys.”

Dywedodd Aelod Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: “Wedi brwydro a chael sicrwydd am hawliau gweithwyr a diogelu’r amgylchedd, ac am yr un buddsoddiad ariannol sydd ar gael yn Lloegr, rwy’n hyderus bydd cynllunio gofalus ar gyfer y porthladd rhydd yn dod a photensial economaidd anferth.

“Yn ôl amcangyfrifon modelu cynnar, fe all porthladd rhydd ddenu hyd at £1bn o fuddsoddiad a hyd at 13,000 o swyddi led led y rhanbarth.”

‘Cyfle cyffrous’

Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad fod y Porthladd Celtaidd wedi cyflwyno cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig a hoffwn ddiolch i’r rhai a weithiodd mor galed i ddatblygu’r cais yma.

“Mae rhoi’r statws porthladd rhydd yn gyfle cyffrous i dde Cymru – gan adeiladu ar y cyfleoedd enfawr a gynigir gan arfordir Sir Benfro o ran ynni gwynt alltraeth sy’n arnofio a thechnolegau adnewyddadwy fel dal hydrogen a charbon.

“Rwy’n hyderus y gall y cyhoeddiad hwn ddod â manteision gwirioneddol i’r economi a chymunedau ar draws de-orllewin Cymru – gan sicrhau swyddi sgiliau uchel a hybu enw da cynyddol y rhanbarth fel arweinydd byd-eang ar gyfer technolegau carbon isel.”

‘Diolch i lobïo’r Ceidwadwyr Cymreig’

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru gyfan ein bod, diolch i lobïo’r Ceidwadwyr Cymreig ar y mater, yn cael nid yn unig un, ond dau borthladd rhydd wedi’u cymeradwyo.

“Bydd busnesau Cymru yn gallu elwa ar reoliadau cynllunio mwy darbodus, gostyngiad treth a threfniadau tollau symlach.

“Pe bai Lafur yn cael eu ffordd, ni fyddem yn cael unrhyw borthladdoedd rhydd o gwbl yng Nghymru – dim swyddi newydd a dim buddsoddiad newydd.

“Mae’r weithred hon wedi profi bod Prif Weinidog [y Deyrnas Unedig] yn hyrwyddwr dros Gymru, yn benderfynol o lefelu’r wlad, er gwaethaf camreolaeth gyfresol Llafur o’r economi yma.”