Mae un o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith yn dweud ei fod yn gobeithio y byddan nhw’n cyfri “yn y miloedd” yn rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yng Nghaernarfon ym mis Mai.
Bydd y rali yn cael ei chynnal ar y Maes yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun 8ed o Fai, sef Gŵyll Banc penwythnos coroni Charles yn frenin Lloegr.
Bwriad y rali fawr yw galw am Ddeddf Eiddo gyflawn yn ystod tymor y Senedd yma, ac mae Ffred Ffransis yn dweud na all Cymru aros hirach er mwyn hawlio Deddf Eiddo gyflawn.
Yn arwain y rali bydd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a’r ymgyrchydd Angharad Tomos.
Bryn Fôn fydd y siaradwr gwadd a bydd bandiau byw yn chwarae ar y Maes cyn i’r rali ddechrau.
‘Allwn ni ddim aros dim mwy’
Yn ôl Ffred Ffransis, ymgyrchydd iaith ac ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith, mae gan y rali fwriad ac is-fwriad.
“Yr is-stori yw ei bod hi yng Nghaernarfon ar y penwythnos brenhinol a’r cyferbynnu amlwg gyda choroni a braint ar un ochr a gwasanaethau cymunedau ar yr ochr arall,” meddai.
“Mae’r system braint, bod pobol falle gyda chyfoeth etifeddol neu gyfoeth yn y banc neu gysylltiadau fel yna, yn golygu bod pobol wedi gallu prynu tai a thir Cymru ac amddifadu pobol Cymru o’r cartrefi hynny yn eu cymunedau.
“Rydan ni’n credu y dylai tai cael eu dosbarthu yn ôl angen ac er mwyn cynnal cymunedau, nid yn ôl cyfoeth a braint.
“Ond y brif neges yn y rali – nid at frenhiniaeth Lloegr ond Llywodraeth Cymru – mae’r ralïau Nid yw Cymru ar Werth wedi cychwyn ers dwy flynedd ac mae yna effaith wedi bod trwy Lywodraeth Cymru ynglŷn a lletya gwyliau gormodol ac amddiffyn hawliau tenantiaid.
“Ac mae’r rhain yn bethau pwysig, ond dydyn nhw ddim wedi taclo, a does dim arwydd eu bod nhw ar fin taclo gwraidd y broblem sef y farchnad agored.
“Felly rydan ni’n credu mai’r neges fydd yn mynd o’r rali at Lywodraeth Cymru yw bod rhaid cael Deddf Eiddo i reoli’r farchnad agored a rhoi blaenoriaeth i bobol leol.
“Rydyn ni’n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi gwell esiampl i’r byd i gyd.
“Yn lle bod y farchnad agored yn rheoli – sy’n golygu mai cyfoethogion sydd bob amser yn cael y dewis gyntaf o ran tai – bod tai yn cael eu dosbarthu yn ôl anghenion cymdeithasol.
“Bydd cyflwyno drafftiau Deddf Eiddo, ymgynghoriad yn ei gylch, a’i gael o drwy Senedd Cymru yn cymryd o leiaf dwy flynedd, felly does dim llawer o amser ar ôl yn y tymor seneddol yma.
“Ond ar ôl degawdau o ymgyrchu, allwn ni ddim gwasatraffu amser ddim mwy.
“Dyma fydd chwalfa cymunedau Cymraeg ac mae angen ceisio sicrhau bod cymaint o bobol â phosib yng Nghaernarfon.
“Rydyn ni’n gobeithio bydd modd cyfri’r niferoedd yng Nghaernarfon yn eu miloedd yn hytrach na channoedd, fel bod yna neges glir yn mynd at Lywodraeth Cymru bod rhaid datrys y mater yma o’r diwedd, a rheoli’r farchnad trwy Ddeddf Eiddo.”
‘Pa fath o fywyd Cymraeg fydd?’
Mae Ffred Ffransis yn dweud bod angen gweithredu ar frys er mwyn sicrhau’r Ddeddf.
“Yr hyn mae pobol yn dweud yw ein bod ni ddegawdau yn rhy hwyr a phe byddai’r ddeddf wedi’i chyflwyno 30 mlynedd yn ôl byddai wedi gallu amddiffyn ein cymunedau ni.
“Mae’n wir, hwn yw un o’r cyfleoedd olaf sydd gyda ni.
“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dangos os aiff y sefyllfa ymlaen am ddegawd arall, mewn degawd arall mae’n fwy na thebyg na fydd cymuned ar ôl yn Sir Gaerfyrddin gyda’r mwyafrif yn gallu siarad Cymraeg.
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan dros y ddegawd ddiwethaf y bydd yr iaith Gymraeg ddim yn marw mwyach, mae’r frwydr wedi’i ennill.
“Ond y cwestiwn nawr yw pa fath o fywyd Cymraeg fydd o?
“Ac mae hynny’n cychwyn gyda Deddf Eiddo nawr.”
Cynigion y Gymdeithas
Lansiodd Cymdeithas yr Iaith eu cynigion ar gyfer Deddf Eiddo ym Mae Caerdydd ym mis Hydref y llynedd, a byddan nhw’n parhau i ymgyrchu dros ddeddf gyflawn yng Nghaernarfon.
- Sicrhau’r Hawl i Gartre’n Lleol: Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i weithredu ar gais pobl leol am gartref i’w brynu, ei rentu neu drwy gynllun hybrid – a hynny o fewn pellter ac amser rhesymol
- Cynllunio ar gyfer Anghenion Lleol: Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i gyd-gynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd ym mhob ardal o’r sir gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal. Byddent yn sail i bolisïau tai, defnydd tir a pholisïau cyhoeddus fel trafnidiaeth ac addysg
- Grymuso Cymunedau: Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol allweddol trwy sefydliadau a arweinir gan y gymuned. Gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i waredu neu brydlesu tir ac eiddo i fentrau cymdeithasol ym mherchnogaeth y gymuned
- Blaenoriaethu Pobl Leol: Creu system tai ac eiddo sy’n diwallu anghenion lleol ac yn gwarchod cymunedau rhag effeithiau y farchnad rydd; gosod amodau ar berchnogaeth a gwerthiant sy’n rhoi hawliau cyntaf i bobl leol neu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i brynu neu rentu tai a phrynu tir ac eiddo yn unol â’r Asesiadau Cymunedol
- Rheoli’r Sector Rhentu: Rheoli lefel rhenti, safonau tai ac amodau tenantiaeth i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat a’r sector tai cymdeithasol
- Cartrefi Cynaliadwy: Sicrhau bod y stoc dai presennol a chartrefi newydd yn fforddiadwy, yn lleihau carbon ac yn gydnaws ag anghenion cymunedol – trwy lynu at egwyddor datblygu cynaliadwy
- Buddsoddi mewn Cymunedau: Galluogi cymunedau i arfer eu hawliau i berchenogi tai, tir ac asedau cymunedol trwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol. Hwyluso benthyciadau llog isel gan fanc cymunedol, fel Banc Cambria, ar gyfer pobl leol a mentrau a arweinir gan y gymuned