Mae’r niferoedd sy’n aros am driniaethau iechyd yng Nghymru wedi gostwng eto, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Fodd bynnag, mae’r ystadegau ar gyfer mis Ionawr yn dangos bod dros 734,000 o bobol dal i aros am driniaethau, sydd 58.4% yn fwy nag ar ddechrau’r pandemig.

Mae nifer y bobol sy’n aros ers dros ddwy flynedd am driniaeth nawr yn 41,103, tra bod un ymhob pump claf yng Nghymru wedi aros dros flwyddyn am driniaeth ym mis Ionawr.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi pryderon am yr oedi hir, gan ddweud nad oes “bron iawn neb” yn gorfod aros cyn hired â dwy flynedd am driniaeth yn yr Alban a Lloegr.

O edrych ar amseroedd aros ambiwlansys, 51% ohonyn nhw wnaeth gyrraedd galwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl o fewn y targed o wyth munud ym mis Chwefror.

Cymerodd dros awr i ambiwlansys gyrraedd hanner y galwadau oren, sy’n cynnwys cleifion sydd wedi cael strôc, gyda dim ond 30% yn cyrraedd o fewn hanner awr.

Bu’n rhaid i 28.4% o gleifion aros yn hirach na’r targed o bedair awr i gael eu gweld mewn adrannau brys y mis diwethaf hefyd.

Dangosa’r ystadegau bod dros 8,000 o gleifion wedi aros dros ddeuddeg awr mewn ysbytai yng Nghymru, a bod pobol dros 85 oed wedi treulio cyfartaledd o dros bum awr mewn adrannau brys.

‘Anallu’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: “Efallai bod gan y Gweinidog Iechyd hyder ei chydweithwyr Llafur, ond dw i’n amau y bydd gan y wlad hyder ynddyn nhw ar ôl set arall ddigalon o ffigurau sy’n dangos ychydig iawn o welliannau o ran amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae’r ffaith bod degau o filoedd o bobol dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth yn arwydd damniol o anallu Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a staff meddygol.”

‘Cysur gweld gwelliannau’

Fodd bynnag, dywedodd Eluned Morgan, sydd newydd oroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil y methiannau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, bod y darlun cyffredinol ar gyfer mis Ionawr a Chwefror “yn un o gynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd”.

“Mae’n gysur imi weld gwelliannau pellach mewn gofal brys, gyda’r gyfran uchaf o gleifion yn cael eu brysbennu, eu hasesu, a’u rhyddhau o adrannau argyfwng o fewn pedair awr, a’r nifer lleiaf o drosglwyddiadau ambiwlans hir ers mis Medi 2021,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

“Dyma’r chweched mis yn olynol y mae perfformiad adrannau argyfwng mawr yng Nghymru wedi bod yn well na’r perfformiad yn Lloegr.

“Fodd bynnag, gwyddom fod mwy o waith i’w wneud a bod pobl sy’n cael gofal mewn argyfwng neu sy’n aros am wely mewn ysbyty weithiau’n aros am hirach nag y byddem yn ei hoffi.

“Nodaf hefyd yr adroddwyd y perfformiad gorau ar gyfer ambiwlansys ers mis Medi’r llynedd, er y straen ychwanegol a deimlwyd ar draws y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i weithredu diwydiannol a lefelau uchel o alw.”

Triniaethau canser

Gan edrych yn benodol ar driniaethau canser, dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n falch bod 13,492 o gleifion wedi cael gwybod nad oedd canser arnyn nhw ym mis Ionawr, sy’n gynnydd o 17.5% ers y mis blaenorol.

Dechreuodd 1,760 o bobol eu triniaeth gyntaf ar ôl diagnosis newydd o ganser ym mis Ionawr, sydd 183 yn fwy nag ym mis Ionawr 2022 a’r chweched uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

“Ond nid yw perfformiad ar gyfer canser wedi cyrraedd y nod rwy’n ei ddisgwyl,” meddai.

“Roedd cyfran y llwybrau sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr amheuwyd gyntaf fod ganddynt ganser ar ei hisaf erioed.

“Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar leihau’r nifer o bobl sydd eisoes wedi aros mwy na 62 diwrnod i gael archwiliad neu driniaeth.

“Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau canser i ganfod mwy o achosion yn gynnar a darparu mynediad cyflym i archwiliadau, triniaeth a gofal o ansawdd uchel.”

Mae hynny’n cynnwys buddsoddi £86 miliwn ar gyfleusterau diagnostig a thriniaeth ar gyfer canser, ac i gynyddu nifer y llefydd hyfforddiant, meddai.

“Bydd Cynllun Gwella Canser y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn helpu i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion yn y tymor hir, yn atal canser a’i ganfod yn gynharach, ac yn lleihau amseroedd aros,” ychwanegodd Eluned Morgan.

“Yr wythnos hon rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn rhoi mwy fyth o ffocws ar gyflymu diagnosis a thriniaeth gynnar ar gyfer canser, cyn uwchgynhadledd ganser y Gweinidog yr wythnos nesaf.”