Mae “angen dybryd” am drawsffurfio sut mae plant a phobol ifanc niwroamrywiol yn cael eu cefnogi yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Ymhlith y cyflyrau niwroddatblygiadol mae Awtistiaeth ac ADHD, ac mae’r Comisiynydd yn galw am gefnogaeth i blant a phobol ifanc sy’n disgwyl am ddiagnosis, yn ogystal â’r rhai sydd wedi cael diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar hanesion unigol plant a’u teuluoedd sy’n ceisio estyn allan am gymorth.

‘Angen cefnogaeth, nid rhwystrau’

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd y Plant, fod llawer o deuluoedd ar draws Cymru yn wynebu amserau aros hir ar gyfer asesiadau a bod rhaid iddyn nhw gael hyd i’w ffordd drwy system gymhleth, yn aml heb dderbyn fawr ddim help i wneud hynny.

“Yn aml iawn bydd teuluoedd yn dod i’m swyddfa wedi cyrraedd pen eu tennyn oherwydd y sefyllfa maen nhw ynddi,” meddai.

“Pan fydd rhiant yn amau bod gan eu plentyn gyflwr niwroddatblygiadol fel awtistiaeth, gall hynny ynddo’i hun fod yn brofiad emosiynol sy’n codi ofn.

“Mae’n adeg pan fo angen cefnogaeth, nid rhwystrau.

“Ond mae rhaid i lawer ohonyn nhw aros oesoedd i gael unrhyw gefnogaeth, ac mae’r frwydr i sicrhau’r gefnogaeth honno yn aml yn broses ddryslyd, estynedig sy’n mynd â’u holl egni.

“Ac yng nghanol y cyfan mae plentyn sydd â hawl i ffynnu a chyflawni hyd eithaf eu potensial.”

Defnyddio profiadau bywyd i lunio system decach

Mae Rocio Cifuentes yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r profiadau yn yr adroddiad i’w tywys i greu system sy’n ymateb yn llawn.

“Mae rhaid i ni gael system sy’n ymateb yn llawn i anghenion unigol plentyn, ac yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

“Ar hyn o bryd, mae gennym ni system sy’n ymateb i ddiagnosis yn hytrach nag anghenion unigol.

“Gall fod yn anodd iawn sicrhau diagnosis, ac efallai na fydd byth yn digwydd yn achos rhai.

“Ni fydd rhai plant byth yn cyrraedd y trothwy ar gyfer diagnosis meddygol penodol, er bod ganddynt yn amlwg ystod eang o anghenion sy’n cael effaith aruthrol arnyn nhw a’u teulu.

“Gall y plant hynny a’u teuluoedd fod yn byw ar dir neb, heb yr help mae arnyn nhw ei angen.

“Mae’n aruthrol o niweidiol.

“Mae pob plentyn yn unigryw, ac mae ganddyn nhw hawl i lefel o ofal a chefnogaeth sy’n ymateb i’w hanghenion unigol.

“Rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y sefyllfa hon, a’u bod nhw’n gweithio i wella’r sefyllfa.

“Ond wrth i ni aros i’r gwelliannau hynny ddigwydd, roeddwn i am amlygu’r anawsterau aruthrol mae plant a theuluoedd ar draws Cymru yn eu hwynebu, a phwysigrwydd diwygio’r maes hwn ar frys.”

Argymhellion

Mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd y byddai Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd ar Gyflyrau Niwroddatblygiadol, “i gynorthwyo Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion gyda chyfeirio, gweithredu a gwerthuso gwasanaethau cyflyrau niwroddatblygiadol”.

Mae teuluoedd o bob rhan o Gymru, ar y cyd gyda Chomisiynydd y Plant, wedi amlinellu’r camau nesaf y dylai’r Llywodraeth gymryd, gan gynnwys:

  • Mae teuluoedd wedi dweud y bydden nhw’n hoffi i wasanaethau fedru ymateb i anghenion eu plentyn, ac os ydyn nhw’n methu gwneud hynny, gallu eu cyfeirio at wasanaethau sy’n gallu helpu yn hytrach na’u hanfon i gefn ciw arall.
  • Dylai gweithwyr proffesiynol fod yn ymwybodol hefyd o anghenion y plant a’r bobol ifanc maen nhw’n siarad â nhw, a sicrhau bod eu goslef yn briodol.
  • Byddai teuluoedd yn hoffi gweld eu plant yn cael mynediad at y gwasanaethau hanfodol angenrheidiol yn y Gymraeg, os dyna eu hiaith gyntaf.
  • Dywedodd teuluoedd eu bod nhw am i amgylchedd yr ysgol gefnogi plant niwroamrywiol yn well, i’r graddau mae hynny’n bosibl.
  • Byddai teuluoedd yn hoffi i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd adolygu’r gefnogaeth sydd ar gael yn lleol ar hyn o bryd, ac ariannu mwy, yn ogystal â hysbysebu’n well grwpiau cefnogi cymheiriaid sydd eisoes yn bodoli i deuluoedd lle bo modd.

‘Gwrando ar deuluoedd a phobol ifanc’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar deuluoedd a phobol ifanc gyda chyflyrau niwrowahanol i helpu i lywio gwelliannau i wasanaethau ar draws Cymru.

“Nod ein Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth yw mynd i’r afael â’r bylchau yn y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc a gwella cymorth cyn ac ar ôl cael diagnosis.

“Byddwn hefyd yn treialu llinell wrando 24 awr o fis Ebrill.

“Rydyn ni’n rhoi £4.5 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau niwrowahaniaeth yn 2023-24, a bydd hyn yn codi i £6 miliwn yn 2024-25.”